Allech chi wneud rhywbeth rhyfeddol i’ch cymuned chi fel gwirfoddolwr?

Mae pandemig y coronafeirws wedi arwain at gynnydd aruthrol mewn gwirfoddoli ar draws Powys ac mae’r sefydliad sy’n gyfrifol am gydlynu’r rhan fwyaf o’r gwaith yn gobeithio y bydd hyn yn parhau.

Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) wedi recriwtio dros ddwy fil o wirfoddolwyr newydd dros y 12 mis diwethaf i wneud gwaith megis stiwardio yn y canolfannau brechu torfol a chasglu bwyd a meddyginiaeth i drigolion bregus, gyda miloedd eto wedi cynnig cymorth anffurfiol i’w cymdogion.

Byddai’n dymuno gweld nifer o’r gwirfoddolwyr newydd hyn yn parhau i wneud gwahaniaeth i’w cymunedau wrth i gyfyngiadau llacio ac y gwneir ymdrechion i ail-agor gwasanaethau ac ail-godi economi’r sir.

Dywedodd Carl Cooper, Prif Weithredwr PAVO: “Ni fydd gwirfoddolwyr byth yn cymryd lle aelodau staff cyflogedig, ond mae’n bosibl iddynt weithio ochr yn ochr a hyd yn oed gwella rhai gwasanaethau cyhoeddus ym Mhowys.”

“Maen nhw wedi bod yn arwyr go iawn yn ystod y pandemig ac rwy’n gobeithio y byddant wedi gweld y budd o wirfoddoli, i’r bobl hynny sy’n derbyn help a’r rhai sy’n ei gynnig, ac yn penderfynu parhau i gynnig rhywfaint o’u hamser i helpu eraill.”

Os hoffech chi wirfoddoli, ewch i Ganolfan Wirfoddoli Powys ar wefan PAVO  (https://www.pavo.org.uk/help-for-people/volunteering.html) i wybod mwy.

Mae PAVO yn gweithio gyda nifer o bartneriaid gan gynnwys Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i hyrwyddo gwaith gwirfoddol ac i helpu unigolion ddod o hyd i gyfleoedd i wirfoddoli sy’n addas iddyn nhw.

Ar hyn o bryd mae angen recriwtio mwy o stiwardiaid ar gyfer y canolfannau brechu torfol  yn Y Drenewydd, Llanfair-ym-Muallt a Bronllys gan fod nifer o’r gwirfoddolwyr presennol yn mynd nôl i’r gwaith neu i astudio ar ôl cyfnod ar ffyrlo, cau busnesau neu ddysgu o bell.

“Canolfan Wirfoddoli Powys yw’r porth at wirfoddoli a gall eich helpu chi gwrdd â phobl newydd, ennill profiad, dysgu sgiliau newydd a chael hwyl”, ychwanegodd Carl Cooper.  “Gall unrhyw un dros 14 oed wirfoddoli a gall helpu i wella eich lles a rhoi synnwyr o gyrhaeddiad y cewch trwy helpu eraill.”

Mae Canolfan Wirfoddoli Powys yn esbonio beth mae gwirfoddoli’n ei olygu a beth i’w wneud os hoffech wirfoddoli.  Dyma hefyd y lle i fynd os ydych chi am recriwtio gwirfoddolwyr i’ch sefydliad neu o fewn eich cymuned chi, neu am unrhyw help i’ch grŵp neu sefydliad gwirfoddol.

Mae tair ffordd i ddod o hyd i’ch cyfle delfrydol i wirfoddoli:

  1. Cysylltu â Chanolfan Wirfoddoli Powys dros e-bost volunteering(at)pavo.org.uk neu galw 01597 822191. 
  2. Mynd i wefan Gwirfoddoli Cymru: volunteering-wales.net/
  3. Cysylltu ag un o bartneriaid PAVO yn eich ardal leol: Canolfan Wirfoddoli Aberhonddu, CAMAD (Community Action Machynlleth And District), Canolfan Wirfoddoli Crughywel, Canolfan Gymuned Tref-y-clawdd a’r Fro (The Comm), Canolfan Wirfoddoli Gogledd Maldwyn, Cymorth Cymunedol Rhaeadr a’r Cylch neu Ganolfan Wirfoddoli Ystradgynlais.

Os ydych chi’n chwilio am ffordd hyblyg i wirfoddoli, beth am ystyried gwirfoddoli ar-lein a hynny o’ch cartref eich hun – ‘sdim rhaid i chi hyd yn oed byw ym Mhowys.

Mae gwirfoddolwyr ar-lein yn gwneud amrywiaeth o waith, o fod yn ymddiriedolwr i gyfeillio neu gymorth marchnata.  Mae hefyd yn bosibl fod yn ‘fentoriaid digidol’ sy’n helpu sefydliadau neu unigolion sydd angen help i fynd ar-lein.

Os hoffech chi gynnig eich sgiliau fel mentor digidol neu’n rywun a fyddai’n elwa o’u help nhw, yna cysylltwch â  PAVO: www.pavo.org.uk

Yn ôl adroddiad Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn 2020, Powys sydd â’r nifer uchaf o elusennau fesul nifer y boblogaeth ar gyfer unrhyw ardal awdurdod lleol yng Nghymru, gydag 16.8 elusen i bob 1,000 o bobl.

Mae yma 4,040 o grwpiau cymunedol a gwirfoddol, 22,313 o ymddiriedolwyr a 26,346 o wirfoddolwyr mewn gwaith eraill, ac mae eu hamser yn werth £129.1 miliwn y flwyddyn i wasanaethau lleol.  Maent yn llwyddo i ddenu gwerth £57miliwn o gyllid i’r sir ac yn creu hwb economaidd o £173.6 miliwn.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity