Nod PAVO yw gwella’n barhaus ein ffyrdd o ddarparu gwasanaethau i’r trydydd sector ym Mhowys. Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech dreulio ychydig o amser eto’n llenwi’r arolwg blynyddol byr yma, sy’n ein helpu i ddeall yn well ac i ymateb yn well i anghenion y trydydd sector ac i ddatblygu ein Cynllun Busnes ar gyfer 2020 - 2021.
Rydym yn parhau i fonitro a gwerthuso ein perfformiad wrth ymateb i’r adborth a geir. Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallwch ymateb erbyn dydd Gwener 13eg Rhagfyr 2019, er mwyn gallu cynnwys eich sylwadau wrth inni adolygu ein gwasanaethau a’n dull o gyflenwi gwasanaethau a llunio ein cynllun busnes am y cyfnod 2020-21.
Roedd Ein Cynllun Strategol ar gyfer 2019-22 a’n Cynllun Busnes ar gyfer 2019-20 yn cynnwys amcanion newydd o ganlyniad i’ch ymatebion i Arolwg Adborth Rhanddeiliaid y llynedd. Mae eich adborth yn cael dylanwad ar ein gweithgareddau - Yn eich barn chi roedd angen inni godi ymwybyddiaeth o’r hyn y mae PAVO yn ei wneud er mwyn i sefydliadau wybod pa gymorth sydd ar gael cyn bo angen y cymorth arnyn nhw, rydym wedi newid rhai o’n dulliau ymgysylltu - gan gynnwys gwneud defnydd gwell o gyfryngau cymdeithasol. Un o’ch sylwadau eraill oedd bod angen i PAVO ganolbwyntio mwy ar ardaloedd mwy anghysbell Powys, eleni rydym wedi arbrofi gyda dull o weithio cymunedol trwy gynllun Ca-Powys.
Diolch yn fawr iawn am eich amser.
Sefydliadau Trydydd Sector – Adborth Rhanddeiliaid PAVO 2019
Cyllidwyr a Phartneriaid Statudol a Chyhoeddus - Adborth Rhanddeiliaid PAVO 2019