A oes angen help ‘mentor digidol’ arnoch i gadw mewn cysylltiad?
Ydych chi’n rhan o grŵp gwirfoddol sydd angen gwella ei sgiliau digidol er mwyn gallu parhau i redeg yn ystod pandemig y coronafeirws?
Os felly, efallai mai ‘mentoriaid digidol’ Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) yw’r ateb.
Mae sgiliau digidol wedi bod yn hanfodol i lawer yn ystod pandemig y coronafeirws, wrth i ddulliau newydd o weithio a chymdeithasu gael eu mabwysiadu ond nid yw addasu wedi bod yn hawdd i bawb.
Os ydych yn perthyn i’r categori yma, a bod angen help arnoch i gadw mewn cysylltiad, mae PAVO wedi recriwtio grŵp bychan o fentoriaid gwirfoddol sy’n gallu gweithio gyda grwpiau i’w helpu i ddatblygu eu gwasanaethau digidol.
"Bu prosiect Gwirfoddoli Ar-lein PAVO, a fu’n rhedeg rhwng Mawrth 2019 a Mawrth 2020, yn gweithio gyda grŵp bach o fudiadau gwirfoddol ym Mhowys i'w helpu i dreialu cyfleoedd ar gyfer gwirfoddolwyr ar-lein." dywedodd Claire Sterry, Uwch Swyddog Datblygu’r Trydydd Sector. "Drwy gyfrwng y rhyngrwyd, roedd grwpiau'n gallu dod o hyd i wirfoddolwyr ym Mhowys a thu allan i'w helpu, er enghraifft, i sefydlu gwefan newydd, cynllunio posteri ar gyfer digwyddiadau, a hwyluso grŵp cyfeillio ar-lein.
"Fodd bynnag, un o brif ganfyddiadau’r prosiect oedd bod angen cymorth ar lawer o fudiadau gwirfoddol ym Mhowys i wella eu sgiliau digidol hanfodol. Daeth hyn yn fwyfwy amlwg wrth i’r pandemig ddechrau, gyda grwpiau’n sydyn iawn yn cael eu gorfodi i weithio mewn ffyrdd newydd, yn enwedig ar-lein.
"Gyda chyllid dilyniant gan Arwain, mae'r prosiect wedi ail-ganolbwyntio ar ddarparu'r cymorth hwn. Drwy gyngor uniongyrchol, cyfeirio a hyfforddiant, nod y prosiect yw hybu sgiliau digidol a hyder ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr ar draws y trydydd sector ym Mhowys."
Mae cynlluniau hefyd i sefydlu 'Rhwydwaith Powys Ddigidol' ar gyfer grwpiau sy'n gweithio ar ddatblygu sgiliau digidol a chynhwysiant digidol yn y sir, fel y gallant rannu gwybodaeth a chefnogi ei gilydd.
Mae hyn yn cysylltu'n agos â gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Sir Powys, ac er ei fod wedi cadw i gynnig cymorth yn rhithiol, byddai o dan amgylchiadau arferol, wedi darparu mynediad at offer digidol, y rhyngrwyd a chymorth cyffredinol i unrhyw un oedd ei angen. Fodd bynnag, mae'r gwasanaeth Llyfrgelloedd yn bwriadu parhau i weithio gyda PAVO i ddod o hyd i ragor o gyfleoedd ar gyfer cymorth yn y dyfodol.
Gall mudiadau gwirfoddol ac ymddiriedolwyr ym Mhowys, a hoffai gael cymorth digidol, gysylltu â PAVO drwy anfon e-bost at info(at)pavo.org.uk neu ffonio 01597 822191.
PAVO hefyd yw'r sefydliad i fynd iddo os ydych yn bwriadu recriwtio gwirfoddolwyr, eisiau cyllid neu gymorth llywodraethu, neu os ydych am gymryd rhan mewn gwirfoddoli ar-lein.
Mae cannoedd o gyfleoedd gwirfoddoli i'w gweld hefyd ar wefan Gwirfoddoli Cymru: volunteering-wales.net/