Dweud eich dweud: Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Gronfa Twf Lleol
Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun buddsoddi tair blynedd a fydd yn cael ei gyflawni drwy’r Gronfa Twf Lleol newydd. Bydd y gronfa hon yn disodli’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) yng Nghymru.
Bydd y Gronfa Twf Lleol yn dod â £547 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU i Gymru dros y tair blynedd nesaf. Am y tro cyntaf ers gadael yr UE, bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu sut y defnyddir y cronfeydd hyn i gefnogi datblygiad economaidd rhanbarthol.
Mae’r ddogfen ymgynghori yn adlewyrchu’r amcanion allweddol ar gyfer y cyllid: hybu cynhyrchiant a lleihau anghydraddoldebau economaidd. Mae’n cyd-fynd â Chenhadaeth Economaidd Llywodraeth Cymru a Chenhadaeth Twf Llywodraeth y DU.
Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar bedwar maes blaenoriaeth:
- Adeiladu busnesau mwy cynhyrchiol a chystadleuol
- Cefnogi pobl i gael gwaith a gwella sgiliau
- Datblygu seilwaith gwyrdd ac ynni
- Cryfhau seilwaith lleol i yrru economïau rhanbarthol
Mae hefyd yn ceisio mewnbwn ar sut y dylid cyflwyno’r gronfa ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, a sut y dylid rheoli’r newid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Gallwch ddarllen y ddogfen ymgynghori yma: https://www.llyw.cymru/cynigion-ar-gyfer-cyflwyno-cronfa-twf-lleol-y-du-yng-nghymru
Rydym yn paratoi ymateb i’r ymgynghoriad ar ran Trydydd Sector Powys a byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn. Ymunwch â’n sesiwn ar-lein ar 10 Rhagfyr, 6 – 7:30yh, lle byddwn hefyd yn eich tywys drwy’r dogfennau ymgynghori. Dysgwch fwy a bwciwch eich lle.
Byddem yn annog sefydliadau i gyflwyno ymateb. Ychydig iawn o amser sydd tan y dyddiad cau, mae’r ymgynghoriad yn cau ar 19 Rhagfyr 2025.
