Gwobrau Elusennau Cymru 2024

Mae enwebiadau ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru 2024 ar agor.

Dyma’ch cyfle i weiddi am eich hoff fudiad gwirfoddol neu wirfoddolwr a rhoi’r cyfle iddynt gael cydnabyddiaeth haeddiannol a noson i’w chofio yn y Seremoni Wobrwyo yng Nghaerdydd ar 25 Tachwedd.

Trefnir Gwobrau Elusennau Cymru gan WCVA ac maent yn cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniad gwych y mae elusennau, grwpiau cymunedol, dielw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru. Mae’n hollol rhad ac am ddim i gymryd rhan.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 13 Medi.

Manylion pellach