Mae Gwobrau Cymunedau Diogelach Cymru 2024 nawr ar agor ar gyfer enwebiadau
Ledled Cymru, mae Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a phartneriaid eraill yn gweithio’n unigol a gyda’i gilydd fel bod pawb yng Nghymru yn teimlo’n ddiogel ac yn rhydd rhag ofn camfanteisio, trosedd ac anhrefn. Mae’r gwaith hwn yn aml yn cael ei wneud yn dawel a chan nifer fach o bobl sy’n frwd dros wneud gwahaniaeth i unigolion, teuluoedd a chymunedau.
Mae Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel yn cael ei chynnal i gydnabod cyfraniadau eithriadol i ddiogelwch cymunedol mewn cyd-destun aml-asiantaeth.
Mae yna bedwar categori ar ddeg o wobrwyon yn y meysydd canlynol:
- Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
- Atal Troseddu
- Ymyrraeth Gynnar
- Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant
- Llywodraethu
- Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio
- Troseddu a Chyfiawnder
- Troseddu Cyfundrefnol
- Partneriaethau
- Diogelwch y Cyhoedd
- Diogelu
- Trais Difrifol
- Terfysgaeth ac Eithafiaeth
- Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Gall unigolion enwebu eu hunain ar gyfer y gwobrau neu gael eu henwebu gan drydydd parti. Croesawir enwebiadau ar gyfer unrhyw unigolyn, sefydliad neu brosiect yng Nghymru p’un ai a ydynt yn cael eu talu neu ddim yn cael eu talu o’r sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector – elusennau, grwpiau gwirfoddol a grwpiau cymunedol.
Gallwch gyflwyno eich enwebiadau drwy lawrlwytho’r ffurflen yma a’i dychwelyd i safercommunities@wlga.gov.uk.
Bydd cynigion yn cau am 5pm ddydd Gwener 11 Hydref.