HYFFORDDIANT PAVO

Mae cyrsiau PAVO yn cael ei ddal ond trwy gyfrwng hyfforddiant ar-lein ar hyn o bryd - edrychwch isod i weld beth sydd ar gael!

Hanfodion Diogelu

Amcanion y cwrs

Sesiwn hanner diwrnod am ddim ar gyfer gwirfoddolwyr, staff a gofalwyr sy’n delio gyda phrif agweddau ar arfer orau ym maes diogelu, a seilir ar raglen Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Diogelu Sylfaenol Cymru Gyfan.

Cynnwys y cwrs

Mae Rhaglen Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Diogelu Sylfaenol Cymru Gyfan yn cael ei weinyddu gan Ofal Cymdeithasol Cymru, a dyma’r adnodd mwyaf diweddar a pherthnasol ym maes diogelu i’r sawl sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion ar draws Cymru.Hyfforddwyr profiadol PAVO fydd yn cyflwyno’r sesiwn hanner diwrnod hwn, byddant yn teilwra’r rhaglen ar gyfer gwirfoddolwyr, staff a gofalwyr sy’n gweithio yn y sectorau gwirfoddol a chymunedol ar draws Powys. Bydd yr hyfforddiant rhyngweithiol a hygyrch yma, sy’n destun gwaith ymchwil trwyadl, yn sicrhau eich bod yn meddu ar yr wybodaeth, agweddau a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn cadw’r bobl sy’n gweithio gyda chi’n ddiogel ac yn eu gwarchod rhag niwed.

Canlyniadau'r cwrs

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn:● Deall egwyddorion a gwerthoedd trefniadau diogelu effeithiol● Gwybod sut i adnabod mathau gwahanol o niwed, cam-drin ac esgeulustod o ran plant, pobl ifanc ac oedolion● Deall eich rôl chi mewn perthynas â diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion● Deall y gweithdrefnau a’r llwybrau atgyfeirio er mwyn diogelu pobl sydd mewn perygl o risg oherwydd niwed, cam-drin ac esgeulustod● Gyfarwydd gyda pholisïau diogelu cyfredol● Derbyn cynllun gweithredu personol er mwyn rhoi’r hyn a ddysgwyd ar waith Noder: hwyrach y bydd fersiwn achrededig o’r cwrs yma - a ddatblygwyd mewn partneriaeth gyda CalanDVS - ar gael os oes digon o ddiddordeb, felly cofiwch gysylltu â ni ar: training@pavo.org.uk os oes gennych ddiddordeb.

I bwy mae'r cwrs wedi'i anelu

AR GYFER PWY MAE’R CWRS? Gwirfoddolwyr, staff neu ofalwyr sy’n gyfrifol am lesiant oedolion a phlant.

Ticedi sydd ar gael

Dydd Mercher 18 Rhagfyr 2019 @ 11:30 - 15:00

Lleoliad Math o docyn Pris Ticedi sydd ar gael  
Talgarth Town Hall 18th December 11,30am - 3pm Bring some snacks as we will be having a small break for lunch £0.00
Wedi Gwerthu Allan
 

Ymholiadau Hyfforddiant

Os gennych chi unrhyw ymholiad ynglŷn â hyfforddiant cysylltwch:

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity