CAEL HYD I A CHADW EICH GWIRFODDOLWR
Amcanion y cwrs
Ydych chi’n gwybod beth sydd ei angen mewn gwirfoddolwr? Neu beth am anghenion y gwirfoddolwr? Bydd cyfle i ddeall eich cyfrifoldebau tuag at eich gwirfoddolwr a sut i wneud y defnydd gorau o’r amser rydych yn cydweithio.
Cynnwys y cwrs
Gwirfoddolwr = unrhyw un sy’n helpu rhedeg eich prosiect neu weithgareddau, heb dderbyn cyflog. Bydd y cwrs yn delio gyda recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr er mwyn i chi a’r gwirfoddolwyr gael profiad hir a gwerth chweil gyda’ch gilydd.
Canlyniadau'r cwrs
Erbyn diwedd y cwrs hwn byddwch yn deall yn well eich cyfrifoldebau tuag at eich gwirfoddolwyr a’r hyn y gallwch ddisgwyl ganddynt. Byddwch yn dysgu’r ffyrdd gorau o sicrhau fod gwirfoddolwyr yn cael profiad gwerth chweil a diogel wrth weithio ar eich prosiect. Hefyd byddwch yn cael cyngor ar sut i gael hyd i wirfoddolwyr medrus fydd yn addas i ac yn datblygu’n rhan werthfawr o’ch prosiect.
I bwy mae'r cwrs wedi'i anelu
I’r grwpiau sydd eisoes wedi arfer defnyddio gwirfoddolwyr neu sy’n ystyried cynnwys gwirfoddolwyr er mwyn cyflenwi gweithgareddau yn y gymuned leol.
Ticedi sydd ar gael
Dydd Mercher 25 Medi 2019
@ 12:30
- 15:00
Lleoliad
|
Math o docyn
|
Pris
|
Ticedi sydd ar gael
|
|
The Welfare, Ystradgynlais |
|
£0.00
|
Digwyddiad wedi bod
|
|
The Welfare, Ystradgynlais |
|
£5.00
£5.00 (members)
|
Digwyddiad wedi bod
|
|
The Welfare, Ystradgynlais |
|
£10.00
£10.00 (members)
|
Digwyddiad wedi bod
|
|