Oes gennych hawl i yrru bws mini?

Cyn cymryd y MiDAS, sicrhewch eich bod wedi pasio eich prawf gyrru car yn y DU cyn Ionawr 1997. Bydd hyn yn rhoi hawl i yrru bws mini, os nad oes gennych unrhyw gyfyngiadau meddygol.

Os byddwch wedi pasio eich prawf gyrru ar ôl 1997, gallwch ond yrru bws mini os ydych yn bodloni'r canlynol;

  • Yn yrrwr gwirfoddol
  • Gyrru i sefydliad nid-er-elw
  • Wedi cael eich trwydded lawn am o leiaf 2 flynedd
  • Dros 21
  • Heb unrhyw gyfyngiadau meddygol
  • Nid yw Pwysau Cerbyd Gros (Gross Vehicle Weight) neu Uchafswm Mas Awdurdodedig (Maximum Authorised Mass) y bws mini yn fwy na 3.5t (Safonol) neu 4.25t (Hygyrch)
  • Ni ddylai'r bws mini dynnu ôl-gerbyd 

Os oes gan eich sefydliad ei bws mini ei hun, gwiriwch ei bwysau ac yn cysylltwch â ni am wybodaeth bellach.

Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf uchod, yna ewch i'r ardal hyfforddi D1.

Cysylltu ag AHCP

01597 828 651
Asiantaeth Hyfforddi Cludiant Powys
PAVO
Uned 30
Parc Diwydiannol Heol Ddole
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity