Hyfforddiant Aseswr Gyrwyr MIDAS (DAT) yw’r cymhwyster sydd ei angen i allu hyfforddi gyrwyr ar gyfer MIDAS.
I hyfforddi gyrwyr MiDAS, bydd angen cymhwyster Hyfforddwyr Asesu Gyrrwr MiDAS (Driver Assessor Trainers - DATs) arnoch. Mae hyn yn cael ei gyflwyno mewn fformat tebyg i gwrs y gyrrwr gyda modiwlau safonol a hygyrch, yn dibynnu ar bwy y byddwch yn eu hyfforddi.
Mae cwrs MiDAS DAT yn cymryd pedwar neu bum niwrnod, gan gynnwys cwblhau asesiadau gyrru bws mini, theori a sgiliau cyflwyno. Os cyflawnir yr asesiad gyrru cyn y cwrs, yna bydd hyd y cwrs yn lleihau o un diwrnod. Er mwyn cynnal tystysgrif eich DAT yn rhaid i chi fynychu hyfforddiant diweddaru bob 2 flynedd.
Cwrs 4 diwrnod yn cwmpasu'r meysydd canlynol;
Cwrs 5 diwrnod sy’n cynnwys diwrnod ychwanegol i edrych ar;
Mae'n ofynnol i holl hyfforddwyr hygyrch basio asesiad ymarferol yn dangos eu gallu i arddangos arfer da yn defnyddio lifftiau teithwyr a chyfarpar diogelwch teithwyr a chadair olwyn.
Unrhyw un sy'n dymuno hyfforddi gyrwyr MiDAS. Mae'r cyrsiau uchod yn cymryd yn ganiataol bod yr ymgeisydd eisoes wedi mynychu a llwyddo yn y cwrs gyrrwr bws mini MiDAS perthnasol. Mae'n rhaid i athrawon feddu ar D1categori bws mini a rhaid i ysgolion annibynnol feddu ar statws elusennol. Os na lwyddir i basio unrhyw ran o'r cwrs - asesiad gyrru, cyflwyniad theori neu asesiad theori gellir ei ailsefyll hyd at uchafswm o dair gwaith.