Hyfforddiant Prawf Bws Mini D1 PCV

Os ydych wedi pasio eich prawf gyrru car ar ôl 1 Ionawr 1997, ni fydd gennych y categori D1 bws mini ar eich trwydded. I yrru fel rhan o'ch gwaith cyflogedig ond nid ar gyfer llogi a gwobrwyo, bydd angen i chi basio'r prawf PCV D1. Mae hwn yn gwrs delfrydol ar gyfer athrawon, gofalwyr ysgolion, gweithwyr cartrefi gofal a hyfforddwyr gweithgareddau awyr agored.

Mae'r hyfforddiant hwn hefyd ar gyfer y rhai sydd am yrru bysiau mini am dâl neu wobr, megis gyrwyr tacsi a gweithredwyr bysiau bach.

Cyn i chi ddechrau eich hyfforddiant D1 mae angen i chi gael y categori D1 dros dro ar eich trwydded yrru;

  1. Mae angen ffurflenni D2 a D4 arnoch, gallwn e-bostio y dolenni yma i chi.
  2. Gwnewch apwyntiad am archwiliad meddygol PCV gyda'ch meddyg. Ewch â’r ffurflen D4 gyda chi er mwyn i’r meddyg ei gwblhau.
  3. Anfonwch ffurflenni D2 a D4 gyda dwy ran eich trwydded yrru cerdyn-llun at y DVLA er mwyn cael y categori D1 dros dro wedi ei ychwanegu i’ch trwydded.
  4. Dechreuwch astudio ar gyfer y profion theori ac adnabod peryglon. Mae’r llyfrau a DVDs angenrheidiol ar gael gan AHCP os oes angen.
  5. Pan fydd gennych eich trwydded ac rydych yn hyderus gyda'ch paratoi gallwch archebu profion theori ac adnabod peryglon.
  6. Dechrau hyfforddiant ymarferol gyda'r prawf bws mini D1 ar y diwrnod olaf.

Noder - os ydych angen y D1 PCV fel gyrrwr proffesiynol bydd hefyd angen i chi basio'r modiwlau CPC theori ac ymarferol.

Hyfforddiant Theori

Gallwn gyflenwi’r deunyddiau hyfforddi theori a’ch helpu gyda’r hyfforddiant theori os oes angen, neu gallwch eu prynu eich hun.

Hyfforddiant Ymarferol

Cyflwynir hyfforddiant ar sail cymhareb hyfforddai i hyfforddwr 1:1 neu 2:1, mae'r cwrs safonol yn seiliedig ar 3 diwrnod o hyfforddiant 1:1, ond gall fod angen mwy o amser neu ddiwrnodau hyfforddiant  ychwanegol. Mae hyfforddiant yn cymryd lle yn ein cerbyd ni, sy'n cwrdd â'r holl ofynion ar gyfer y prawf PCV D1.

Cysylltu ag AHCP

01597 828 651
Asiantaeth Hyfforddi Cludiant Powys
PAVO
Uned 30
Parc Diwydiannol Heol Ddole
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity