Bydd y cwrs hwn yn helpu gyrwyr i wella economi tanwydd wrth yrru drwy wella eu sgiliau rhagweld a chynllunio ymlaen. Gall y cwrs hwn helpu busnesau i reoli eu costau tanwydd, gwella diogelwch gyrwyr a lleihau traul a gwisgo cerbydau.
Mae’r hyfforddiant yn cynnwys cyflwyniad theori rhyngweithiol 2 awr ac yn edrych ar sut i yrru gan ddefnyddio tanwydd yn effeithlon, gwella sgiliau adnabod peryglon ac ymwybyddiaeth y gyrrwr. Ar gyfer grwpiau o hyd at 20 o bobl. Mae'r sesiwn hyfforddi ymarferol ar y ffordd yn edrych ar sut i weithredu’r technegau eco-yrru a datblygu sgiliau'r gyrrwr.
Unrhyw un sy'n gyrru car, fan neu lori (hyd at 7.5 tunnell) ar gyfer eu gwaith.
Pris ar gais