Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer staff cyflogedig a gwirfoddolwyr sydd â gofal a goruchwyliaeth am deithwyr sy'n teithio ar y ffyrdd - mewn ceir, tacsis, minicabs, bysiau mini neu fysiau mawr. Mae'n ymdrin â materion cyfreithiol, ymarferol a diogelwch a'i nod yw gwella diogelwch teithwyr drwy ddarparu'r sgiliau a gwybodaeth er mwyn i gynorthwywyr teithwyr ddiwallu anghenion eu teithwyr.
Dyma’r modiwl sylfaenol - y man cychwyn ar gyfer hyfforddiant pellach. Mae'n ymdrin â rôl a chyfrifoldebau cynorthwy-ydd teithwyr - y materion cyfreithiol, ymarferol a diogelwch. Mae fel arfer yn para tua tair awr.
Yn cynnwys dod i mewn ac allan o gerbydau a gwybodaeth diogelwch yn ymwneud â defnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae'n cymryd dwy awr a hanner.
Mae hyn yn cynnwys goruchwylio plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu, awtistiaeth, anableddau corfforol, cyfyngiad synhwyraidd ac anawsterau emosiynol neu ymddygiad. Mae'r modiwl yn para am awr a hanner.
Mae hyn yn cynnwys teithwyr sy'n oedolion ag anawsterau dysgu, dementia, anableddau corfforol, cyfyngiad synhwyraidd a phobl sydd mewn trallod meddyliol neu emosiynol. Mae'n cymryd dwy awr a hanner.