Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ŵyl flynyddol ledled y DU sy’n dathlu gwirfoddolwyr, ac mae’n cael ei chynnal rhwng 1 a 7 Mehefin bob blwyddyn. Yn ystod yr wythnos arbennig hon, caiff mudiadau gwirfoddol eu hannog i ddiolch i’w gwirfoddolwyr.
Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ymwneud â rhannu straeon gwirfoddoli - gan amlygu'r pethau anhygoel mae gwirfoddolwyr yn eu gwneud. Byddem wrth ein bodd yn clywed straeon gan wirfoddolwyr ar draws Powys y byddwn yn eu rhannu yn ein cylchlythyrau ac ar gyfryngau cymdeithasol.
Gallwch anfon stori wirfoddoli atom trwy lenwi'r ffurflen ar-lein hon.
Fel arall gallwch chi lawrlwytho'r ffurflen yma a'i hanfon trwy e-bost i volunteering(at)pavo.org.uk