Dyddiad cau: 1af Ebrill 2024
Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n hael iawn ei amser i wella bywydau pobl eraill? Ydych chi’n gwybod am sefydliad sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i fywyd yn y gymuned? Mae Gwobrwyon Gwirfoddolwr y Flwyddyn ym Mhowys yn gyfle i gydnabod gwerth gwirfoddoli yn y Sir. Cynhelir y gwobrwyon yn flynyddol, a chynhelir noson arbennig i ddathlu’r unigolion a enwebwyd.
Rydym yn croesawu enwebiadau ar gyfer:
- unigolion mewn unrhyw grwpiau oedran
- dau neu fwy o wirfoddolwyr mewn grŵp sy’n gyfrifol am dasg, gweithgaredd neu brosiect. Gall y grŵp fod yn naill ai a) gwirfoddolwyr neu b) grŵp o wirfoddolwyr sy’n rhan o sefydliad gyda staff cyflogedig. Ar gyfer sefydliadau gyda staff cyflogedig, mae’n rhaid enwebu’r grŵp o wirfoddolwyr, ac nid y sefydliad.