Mae grantiau hyd at £10,000 ar gael i sefydliadau dielw ledled y DU ar gyfer prosiectau newydd ac arloesol sydd wedi’u cynllunio i (1) hybu iechyd y galon a (2) atal neu leihau’r risg o glefyd y galon mewn grwpiau neu gymunedau penodol.
_________
o Cyfnod ymgeisio: mae’r rhain yn amrywio o ranbarth i ranbarth ar draws y DU, gan ddechrau gyda Chymru sydd ar agor i geisiadau ar hyn o bryd gyda dyddiad cau o ddydd Llun 28 Chwefror 2022
o Pwy all wneud cais: sefydliadau di-elw ar draws y DU, gan gynnwys elusennau cofrestredig, grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol a grwpiau chwaraeon.
Mae rhagor o wybodaeth, canllawiau a ffurflen gais ar-lein ar gael ar wefan Heart Research UK.