Mae'r gronfa wedi ei rhannu i ddwy ran:
Coronafeirws: Cymorth Refeniw i Sefydliadau Celfyddydol
Coronafeirws: Cymorth Cyfalaf i Sefydiadau Celfyddydol
Mae'r gronfa'n cael ei gweinyddu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Bydd y Cyngor yn rhoi £25.5 miliwn o arian refeniw a £2 miliwn o arian cyfalaf i sefydliadau celfyddydol. Gall y sefydliadau hyn fod yn rhai dielw neu fasnachol ond rhaid iddynt ddangos eu bod yn cynnig gweithgarwch celfyddydol sy'n hygyrch i bobl Cymru a bod y coronafeirws wedi effeithio arnynt yn sylweddol. Diben y gronfa yw cynnal sefydliadau sy'n wynebu’r bygythiad o gau drwy eu helpu i ailddechrau gweithio yn 2021 a’r tu hwnt.
Bydd disgwyl i'r rhai sy'n cael cymorth o'r gronfa roi rhywbeth yn ôl i'r cyhoedd – eu contract diwylliannol gyda phobl Cymru.