GRANTIAU BACH CRONFA ELUSENNOL TYWYSOG CYMRU

Mae grantiau refeniw hyd at £5,000 ar gael i elusennau bach ar lawr gwlad y DU a sefydliadau elusennol sy’n gweithio ym meysydd cefn gwlad, addysg, yr amgylchedd, iechyd a lles, treftadaeth a chadwraeth a chynhwysiant cymdeithasol.

__________

 

o Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: dim - gellir gwneud ceisiadau unrhyw bryd drwy'r ffurflen gais ar-lein sydd ar gael ar wefan y Gronfa.

 

o Pwy all wneud cais: Elusennau cofrestredig yn y DU a sefydliadau dielw sydd ag incwm blynyddol o lai nag £1 miliwn. Sylwch fod yn rhaid i sefydliadau ymgeisio fod wedi bod yn weithgar am o leiaf 24 mis ac yn gallu cynhyrchu adroddiad blynyddol a set o gyfrifon blynyddol.

Mae rhagor o wybodaeth, canllawiau a ffurflen gais ar-lein ar gael ar wefan y Sefydliad.

Gellir gwneud ceisiadau unrhyw bryd a chânt eu hadolygu gan y Sefydliad ym mis Chwefror, Mai, Gorffennaf a Hydref. Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer y cyfarfod nesaf, dylid gwneud ceisiadau erbyn diwedd Ionawr, Ebrill, Mehefin a Medi bob blwyddyn.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity