Cynllun sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a gwella gwirfoddoli yng Nghymru yw Grantiau Gwirfoddoli Cymru.
Mae Gwirfoddoli Cymru yn ymwneud â’r ‘…math o wlad rydyn ni am fod’.
Gwirfoddolwr yw rhywun sy’n ymrwymo amser ac egni er budd y gymdeithas a’r gymuned, a gall gwirfoddoli fod ar sawl ffurf. Caiff ei wneud gan rywun o’i wirfodd a’i ddewis ei hun heb feddwl am elw ariannol.
Gwirfoddoli yw un o’r dangosyddion llesiant cenedlaethol sy’n olrhain cynnydd Cymru yn erbyn nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Er mwyn ymwreiddio gwirfoddoli, creu cyfleoedd gwirfoddoli o ansawdd uchel a chael pobl ifanc i gymryd rhan, mae Llywodraeth Cymru wedi cyllido tri cynllun allweddol o dan Gwirfoddoli Cymru.
AMCANION Y GRANT
- Cynyddu nifer y gwirfoddolwyr sy’n cymryd rhan a’u cadw drwy chwalu’r rhwystrau i wirfoddoli i bobl o bob oed ac o bob rhan o’r gymdeithas.
- Cefnogi cyfleoedd gwirfoddoli cadarnhaol o ansawdd uchel sy’n ceisio recriwtio, cynorthwyo a hyfforddi gwirfoddolwyr.
- Hyrwyddo newidiadau yn y mudiadau a fydd yn cael budd er mwyn gwneud gwirfoddoli’n rhan o’u diwylliant, ee ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Gwirfoddolwyr.
Mae cyllid ar gael i fudiadau nid-er-elw sy’n cynnig prosiectau hyd at two flynedd, am hyd at £25,000 y flwyddyn.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ganllawiau llawn y cynllun yma
I wneud cais, ewch i https://map.wcva.cymru