Mae rhaglen ariannu Loteri’r Celfyddydau, Iechyd a Lles yn ailagor i geisiadau ar 16 Mawrth 2022.
Gan gefnogi prosiectau creadigol o ansawdd uchel sy’n darparu buddion iechyd a lles i bobl Cymru, mae Cronfa’r Celfyddydau, Iechyd a Llesiant yn agored i geisiadau partneriaeth o bob rhan o’r celfyddydau, iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector.
Dyddiad Cau Cais: 5pm ar 21 Ebrill 2022
Mae gan CCC ddiddordeb arbennig mewn cefnogi prosiectau creadigol sy’n mynd i’r afael â’r heriau a’r blaenoriaethau iechyd canlynol:
Iechyd Meddwl (gan gynnwys mynd i’r afael ag unigrwydd/ynysu cymdeithasol a chynlluniau rhagnodi cymdeithasol sy’n anelu at feithrin gwydnwch a mynd i’r afael â salwch meddwl);
Anghydraddoldebau Iechyd – prosiectau sydd wedi’u cynllunio i ddod â buddion iechyd a lles drwy’r celfyddydau i bobl o gefndiroedd mwy amrywiol;
Iechyd a lles corfforol – prosiectau celfyddydol sy’n cefnogi gwell iechyd corfforol neu’n cadw pobl yn gorfforol egnïol drwy’r celfyddydau yn ystod/ar ôl y pandemig
Lles staff - o fewn y gweithlu gofal iechyd a/neu gelfyddydau
Gweler y canllawiau ariannu llawn am ragor o wybodaeth.
Y dyddiad cau ar gyfer y rownd hon yw 5pm ar 21 Ebrill 2022
https://celf.cymru/iechyd-a-lles-celfyddydol