O ganlyniad i ddadansoddiad o ddata a gasglwyd gan y Cysylltwyr Cymunedol, nodwyd bod bwlch yn y gefnogaeth siopa i breswylwyr yn ardal y Drenewydd a'r Trallwng.
Mae cyfle wedi codi i sefydliad trydydd sector, menter gymdeithasol neu grŵp cymunedol wneud cais am gyllid i sefydlu gwasanaeth a fydd yn helpu i lenwi'r bwlch mewn cymorth siopa yn yr ardal. Gallai hyn fod yn darparu gwasanaeth hebrwng i fynd gyda phobl wrth iddynt siopa, helpu pobl i lunio rhestr siopa a danfon eu siopa iddynt neu helpu gyda siopa ar-lein.
Mae'r cyllid ar gael i dalu'r costau sefydlu cychwynnol, ond rhaid i'r gwasanaeth fod yn gynaliadwy ar ôl i'r cyllid cychwynnol gael ei ddefnyddio. Mae'r cyllid ar gael am gyfnod byr a bydd angen sefydlu mentrau a darparu gwasanaeth erbyn 31 Mawrth 2020.
I gofrestru'ch diddordeb neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Tim Davies, Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol ar 01597 822191 neu drwy e-bost tim.davies(at)pavo.org.uk