Dywedodd Independent Age:
“Mae’r Coronafeirws wedi newid bywydau pawb yn y DU, yn enwedig i’n cenhedlaeth hŷn sydd dal i fod y rhai ag effeithiwyd mwyaf gan Covid… a dyna pam mae ein hymddiriedolwyr wedi rhyddhau £2 miliwn o gronfa Independent Age i gefnogi mudiadau llai ar draws y DU sydd yn gweithio gyda phobl hyn sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan y firws.”
Bydd y Gronfa’n cynnwys pedair rownd ariannu ar wahân. Ymhob rownd bydd £500,000 ar gael lle gellir mudiadau geisio am £15,000 yr un. Mae rhaid i geiswyr fod yn elusennau cofrestredig o’r DU, gydag o leiaf un aelod staff sydd yn barod yn gweithio gyda grwpiau blaenoriaeth pobl hyn.
Y dyddiad cau ar gyfer y rownd gyntaf yw 9am 4 Mehefin 2020.
Gallwch lawrlwytho’r canllawiau cais neu ewch i wefan y Independant Age i ddarganfod mwy.