Cronfa Cynhwysiant Gweithredol newydd ar gyfer COVID-19

Mae cylch newydd o gyllid Cynhwysiant Gweithredol yn cael ei lansio i helpu mudiadau yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws – gyda phroses ymgeisio symlach a byrrach.

Mae pandemig Covid-19 a’r camau cyfyngu symudiadau sydd wedi’u cymryd i fynd i’r afael ag ef wedi effeithio ar lawer o gyfranogwyr y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol (AIF). Mae’r rhain wedi golygu bod yn rhaid i fudiadau addasu’r ffordd y maen nhw’n gwneud eu gweithgareddau bob dydd er mwyn cefnogi eu cyfranogwyr a’r gymuned ehangach.

Mae CGGC wedi cytuno â WEFO y bydd cylch byr, syml o gyllid AIF yn cael ei gynnal i gefnogi cynhwysiant cymdeithasol a gwella rhagolygon cyflogadwyedd. Bydd y cyllid yn cynorthwyo’r camau sydd wedi’u cymryd i liniaru’r argyfwng (nad ydynt wedi’u cyllido eisoes gan ffynonellau eraill) ac yn cefnogi gweithgareddau a fydd yn cynyddu’r adferiad pan fydd y cyfnod o argyfwng wedi dod i ben.

Bydd y gronfa’n cefnogi prosiectau chwe mis o hyd sydd â chyfanswm cost o £25,000 ar y mwyaf, gyda grantiau o 80%. Bydd ceisiadau’n cael eu gwneud drwy MAP, porth ymgeisio amlbwrpas CGGC, a’n nod yw cael prosiectau ar waith o fewn 4-6 wythnos i gyflwyno’r cais.  Os nad ydych chi'n gwybod eich mewngofnodi MAP yna cysylltwch: map(at)wcva.cymru.

Yn ystod yr adeg hon, rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pawb yn ddiogel a bod pawb yn teimlo’u bod yn cael eu cefnogi. Mae’r rhain yn amgylchiadau eithriadol, ac rydyn ni eisiau eich sicrhau chi y bydd mesurau a thargedau priodol yn cael eu cytuno: er enghraifft, i ddechrau, byddwn dim ond yn gosod targedau ar gyfer nifer y cyfranogwyr sy’n cymryd rhan ac sy’n cyflawni ‘canlyniadau cadarnhaol’.  Rydyn ni’n sylweddoli y bydd casglu tystiolaeth o gymhwysedd yn anodd o dan y cyfyngiadau symud - byddwn ni’n hyblyg ac yn eich helpu chi i gasglu’r dystiolaeth unwaith y bydd hyn yn bosibl.

Efallai y bydd rhai prosiectau’n canolbwyntio ar weithgareddau i helpu gyda gwasanaethau sy’n ymwneud â Covid-19, gan ddefnyddio cyfranogwyr i helpu i gyflawni’r rhain, e.e. helpu pobl a warchodir i gadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd, ac felly’n ychwanegu i’w sgiliau a’u cyflogadwyedd.  Gallai eraill ganolbwyntio ar wasanaethau sy’n cefnogi eu grwpiau cyfranogwyr yn uniongyrchol, e.e. drwy ddarparu cymorth digidol a thros y ffôn, gweithgareddau ar-lein ac ati. 

Mae’n parhau i fod yn gyllid Ewropeaidd, ond gyda phrosesau symlach a byrrach, a phroses gymeradwyo mwy rhyngweithiol: byddwn ni’n cadw’r ffurflenni a’r amserau asesu’n fyr, a dibynnu ar siarad â chi i weithio drwy unrhyw fanylion sydd eu hangen i ategu’r gwaith hwn.

 

Cynhwysiant Gweithredol 

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Tŷ Baltig,Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FH

Ebost ActiveInclusion(at)wcva.cymru

http://www.wcva.cymru/

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity