Mae PAVO yn falch o gyhoeddi cynllun grant newydd i fudiadau’r trydydd sector ym Mhowys.
Nod y gronfa Gwneud Gwahaniaeth ym Mhowys yw cynyddu gallu sefydliadau lleol i gyflwyno gweithgareddau newydd. Bydd y gweithgareddau yma’n mynd i’r afael â’r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi a nodwyd o dan thema Cymunedau a Lle Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ym Mhowys.
Blaenoriaethau’r Gronfa yw:
Cymunedau a lle
Cludiant Cymunedol
Treftadaeth Ddiwylliannol a Thwristiaeth
Gweithredu Hinsawdd
Costau Byw
Cysylltu Cymunedau (yn ddigidol neu fel arall)
Mae'r cynllun ar gael i sefydliadau cymunedol priodol gyda chyfansoddiad/set o reolau a chyfrif banc. Rhaid i sefydliadau fod wedi'u lleoli ym Mhowys. Rhaid i bob ymgeisydd ymgysylltu â’r cymorth sydd ar gael gan Swyddog Datblygu’r gronfa cyn cyflwyno cais.
Cyfanswm gwerth y gronfa yw £400,000; a gall grwpiau wneud cais am rhwng £4,000 a £40,000.
Mae'r gronfa ar gael i gefnogi costau refeniw yn unig. Rhaid gwario’r holl gyllid erbyn diwedd Tachwedd 2024.
Mae'r cyfnod ymgeisio cyntaf yn agor ar 21ain o Awst 2023. Bydd yr ail rownd yn agor ar 22ain o Ionawr 2024 yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth y DU, a bod digon o arian ar gael.
Gall grwpiau naill ai:
gwneud cais am gyllid ar gyfer blwyddyn 1 y cynllun (Diwedd Hydref 2023 - Mawrth 2024)
gwneud cais ar gyfer blwyddyn 1 (Diwedd Hydref 2023 - Mawrth 2024) a blwyddyn 2 (Ebrill 2024 - Tachwedd 2024 - yn amodol ar gymeradwyaeth llywodraeth y DU) OND rhaid i unrhyw brosiect sy'n ymgeisio ar gyfer blwyddyn 1 a 2 ddangos gwahaniaeth yn y prosiect, nid parhad o’r gweithgareddau o flwyddyn 1 yn unig.
e.e.
Blwyddyn 1 - prosiect peilot byr; prosiect llawn blwyddyn 2
Blwyddyn 1 - astudiaeth dichonoldeb / ymchwil gweithredu; prosiect peilot blwyddyn 2 i brofi'r astudiaeth ddichonoldeb / ymchwil gweithredu
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
01597 822191
DYDDIAD CAU: 5PM DYDD LLUN 2 HYDREF 2023