Bwrdd Iechyd Lleol Powys sy’n ariannu’r Cynllun Grantiau Bach Iechyd. Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) sy’n gweinyddu’r cynllun, ar ran yr arianwyr.
Nod y Cynllun Grantiau Bach Iechyd yw annog grwpiau cymunedol a chymunedau buddiant i wneud gweithgareddau sy’n cefnogi blaenoriaethau strategol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, o ran: Llesiant https://www.legislation.gov.uk/cy/anaw/2014/4/section/2
Dyma enghreifftiau o weithgareddau posibl:
Fe fydd y Cynllun Grantiau Bach Iechyd yn darparu cronfeydd i alluogi grwpiau’r sector gwirfoddol, cymunedau a chymunedau buddiant i brynu offer a/neu i sefydlu / estyn neu gynnal gweithgareddau arloesol ar raddfa fach sy’n rhoi sylw i’r amcanion penodol o ran iechyd a llesiant a nodir uchod.
Mae dyfarniadau o £200 i £1,500 ar gael i sefydliadau sy’n bodloni’r meini prawf o ran cymhwysedd ac o ran y grant.
Cymhwysedd
Mae’n rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais am y grant:
*Os nad yw’ch sefydliad yn aelod o PAVO ar hyn o bryd, ond yn teimlo’ch bod chi’n gymwys i wneud cais, yna dilynwch y ddolen isod: https://www.pavo.org.uk/cy/cefndir-pavo/ymaelodi-a-pavo.html
neu cysylltwch â swyddfa PAVO ar 01597 822191 i dderbyn ffurflen aelodaeth.
Fe fydd pob sefydliad a fydd yn gwneud cais yn cael cynnig cymorth Swyddog Datblygu PAVO i’w cefnogi â’u cais.
MEINI PRAWF Y GRANT
Mae cyllid ar gael ar gyfer gweithgareddau sy’n rhoi sylw i un neu fwy o’r amcanion a ganlyn:
1.1 Gwneud gweithgareddau hamdden ac adloniant yn fwy hygyrch i bobl hŷn
1.2 Gweithio mewn partneriaeth â chymunedau ac asiantaethau eraill i gynyddu’r opsiynau ar gyfer gweithgarwch corfforol yn y gymuned
1.3 Hybu dulliau iach o fwy ar gyfer pobl o bob oedran trwy weithgareddau i roi sylw i un neu fwy o’r canlynol:
Hybu a Chynnal Annibyniaeth
Mae cyllid ar gael ar gyfer gweithgareddau sy’n rhoi sylw i un neu fwy o’r amcanion a ganlyn dan hybu a chynnal annibyniaeth:
2.1 Gweithgareddau i gefnogi gofalwyr
2.2 Cymorth anffurfiol mewn cymunedau i bobl ag anghenion gofal ar lefel is, fel cyfeillio, cynlluniau cymydog da, casglu presgripsiynau
Enghreifftiau o sut y gellid defnyddio’r cronfeydd:
Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sy’n bodloni’r meini prawf uchod ac sy’n dangos y nodweddion a ganlyn:
I dderbyn copi o'r ffurflen gais, anfonwch e-bost at grants@pavo.org.uk neu ffoniwch 01597 822191