Mae grantiau bach hyd at £1500 ar gael gan PAVO sy'n darparu cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl ifanc 14-25 oed.
Mae grantiau bach hyd at £1500 ar gael gan PAVO i alluogi prosiectau syn darparu cyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc 14-25 oed i redeg.
Gall y bobl ifanc fod o grŵp syn bodoli eisoes neu ddim ond pobl ifanc sy’n dod at eu gilydd i redeg prosiect ou dewis eu hunain. Rhaid ir cais gael ei ysgrifennu gan berson ifanc. Mae prosiectau yn y gorffennol wedi cynnwys trefnu digwyddiadau codi arian i gefnogi elusennau lleol, cynlluniau amgylcheddol lleol, a gwella cyfleusterau i bobl hŷn. Gallai enghreifftiau o brosiectau yn y dyfodol fod yn ymwneud ag iechyd meddwl, gofalwyr ifanc, yr henoed, iechyd a lles, celf, sgiliau bywyd a.y.y.b.
Dylai prosiectau cwrdd ag o leiaf un o flaenoriaethau Deddf Lles Cenedlaethaur Dyfodol 2015: https://www.futuregenerations.wales/wp-content/uploads/2017/01/160401-wfg-accessible-guide-for-young-people-cy-7.pdf
Rydym yn annog ceisiadau creadigol gan brosiectau sy'n ymgysylltu ag unigolion/cymunedau ac yn eu cefnogi
Bydd panel o bobl ifanc o Bowys yn asesur cais.
Y dyddiad cau yw 11 Medi 2023, hanner dydd.
Cysylltwch â ni i drafod eich syniadau ac i dderbyn ffurflen gais.
AM gymorht, cyswllt melissa.townsend(at)pavo.org.uk neu 01597 822191