Cymunedau Cysylltiedig: Cronfa Unigrwydd ac Ynysigrwydd Cymdeithasol 2021-2024

Dylid darllen y canllawiau canlynol yn ofalus -  lawrlwythwch a ffurflen gais yma

Am y gronfa

Ni fedrwn dderbyn ceisiadau ar ôl y dyddiad cau sef 20 Chwefror, 2022 am 11:59pm. 

Mae pandemig Covid-19 wedi amlygu pwysigrwydd cymorth a leolir yn y gymuned a rôl cymunedau o ran mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Defnyddir y gronfa i feithrin gallu a chynaliadwyedd sefydliadau gwirfoddol a chymunedol ar lawr gwlad, sy’n dod â phobl o bob oed at ei gilydd.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos yr angen ar gyfer eu prosiect o safbwynt unigrwydd ac ynysigrwydd, gan gynnwys unrhyw effaith yn sgil y pandemig, cwmpas y cynnig, sut y caiff ei reoli a’i gyflenwi a’r canlyniadau fydd yn cael eu gwireddu.

Hefyd mae’n rhaid i geisiadau ddangos sut mae’r cynnig yn diwallu un neu fwy o Bedair Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru:

  • Cynyddu cyfleoedd i bobl gysylltu â’i gilydd

    • A fydd eich prosiect yn creu cyfleoedd i bobl gysylltu â’i gilydd?

  • Seilwaith cymunedol sy’n cefnogi cymunedau cysylltiedig

    • A fydd eich prosiect yn datblygu seilwaith megis cynlluniau cludiant cymunedol neu glybiau cinio?

  • Cymunedau cydlynus a chefnogol

    • A fydd eich prosiect yn helpu meithrin gwydnwch yn y gymuned? 

  • Meithrin ymwybyddiaeth a hyrwyddo agweddau positif

    • A fydd eich prosiect yn helpu codi ymwybyddiaeth am effaith unigrwydd ar fywydau pobl a chynnig ffyrdd i fynd i’r afael â hyn?

Yn bennaf, diben y buddsoddiad yw cefnogi sefydliadau llai lleol yn y meysydd canlynol:

  • Ehangu gweithgareddau sydd eisoes yn bodoli 

  • Ail-sefydlu presenoldeb a gollwyd oherwydd y pandemig 

  • Hyrwyddo gwasanaethau ar lefel ehangach 

  • Cyllido defnydd o leoliadau addas

Bylchau gwasanaeth a nodwyd ym Mhowys:

  • Cymorth ymarferol ac ym maes llesiant i unigolion sy’n gaeth i’w cartrefi

  • Cymorth cymheiriaid i famau newydd

  • Ymweliadau lles a chymorth yn y cartref i’r henoed

  • Cymorth ym maes iechyd meddwl a llesiant i bobl dan 50 oed

  • Cymorth un-i-in i bobl ifanc yn eu harddegau

  • Cymorth i bobl sydd â nam difrifol ar eu golwg neu eu clyw

Byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau sy’n canolbwyntio ar ddarparu ymatebion lleol pwrpasol a chymorth graddfa fach a seilir yn y gymuned. Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n dod â phobl ynghyd wyneb yn wyneb mewn lleoliad diogel, neu gellir ei ddefnyddio i gefnogi gweithgareddau ar-lein os taw dyna sydd fwyaf priodol - neu’r unig ffordd - i feithrin cysylltiadau cymdeithasol, e.e. os oes trafferth gyda mynediad at leoliad neu ar gyfer y sawl nad ydynt yn barod eto i gwrdd â phobl wyneb yn wyneb.

Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer costau refeniw yn unig sy’n gysylltiedig â’r math yma o weithgareddau. Ni chaniateir ei ddefnyddio ar gyfer costau cyfalaf ac ni chaniateir dyblygu unrhyw gyllid sydd gennych eisoes.

Mae grantiau o rhwng £250 a £2,500 y flwyddyn ar gael, a gall sefydliad ymgeisio am gyllid ar gyfer hyd at dair blynedd am y cyfnod 2022 - 2024. Nid oes rhaid ichi wneud cais am yr un swm bob blwyddyn. 

Cymhwysedd

Gall eich sefydliad ymgeisio os mae’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd canlynol: 

  • Sefydliad trydydd sector/sector gwirfoddol yw (dielw) ac yn annibynnol o sectorau’r llywodraeth, preifat a chyhoeddus

    • Elusen gofrestredig

    • Grŵp cyfansoddedig

    • Cwmni Buddiant Cymunedol

    • Sefydliad Corfforedig Elusennol

    • Cwmni cyfyngedig trwy warant

    • Cwmni cyfyngedig trwy gyfranddaliadau lle mae un o’r uchod yn dal y cyfranddaliadau (h.y. is-gwmni busnes cymdeithasol sy’n eiddo i Elusen)

    • Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus (IPS) ar ffurf Cymdeithas Budd Cymunedol (BenCom)

    • Cymdeithas gydfuddiannol Ariannol

  • Bydd y cyllid ar gael ar gyfer gweithgareddau/gwasanaethau/cymunedau ym Mhowys

  • Mae gan eich sefydliad o leiaf 2 lofnodwr awdurdodedig 

Ni chaniateir i’ch sefydliad wneud cais os ydych yn:

  • Sefydliad gwleidyddol

  • Sefydliad statudol

  • Sefydliad preifat

  • Unigolyn

Mae’n rhaid i sefydliadau sy’n ymgeisio am y grant:

  • Gael dogfen llywodraethu

  • Gael cyfrif banc

  • Dangos y gallu i reoli grant

  • Dangos fod ganddynt bolisïau ac yswiriant perthnasol

  • Ymateb i un neu fwy o’r Pedair Blaenoriaeth a nodwyd fel blaenoriaethau cyllido, a dangos tystiolaeth o angen

Bydd staff PAVO yn cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy cyn cyflwyno ceisiadau i gael eu hadolygu gan banel. Os nad oes gan eich sefydliad yr holl bolisïau perthnasol yn eu lle, gall PAVO gynnig cefnogaeth mewn perthynas â hyn.

Mae cefnogaeth Swyddog Datblygu PAVO ar gael i unrhyw sefydliad sydd am gyflwyno cais. Byddem yn argymell cysylltu â ni cyn cyflwyno eich cais. Dylid cysylltu â Haydn Taylor, Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol rhwng 9am - 5pm, dydd Llun - Mercher.  

Ebost: haydn.taylor(at)pavo.org.uk

Rhif ffôn: 01597 822191

PWYSIG

  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn 100% o’r grant ar ôl cwblhau’r gwaith papur angenrheidiol.

    • Bydd ymgeiswyr ar gyfer prosiectau sy’n parhau am fwy na blwyddyn yn derbyn taliadau blynyddol o’r grant, ar yr amod eu bod yn cyflwyno’r data monitro y gofynnir amdano 

    • Bydd methu â chydymffurfio â chais i ddarparu data monitro yn arwain at atal taliadau blynyddol

  • Bydd gofyn i grwpiau gyflwyno adroddiad monitro blynyddol

    • Gall methu â chydymffurfio â chais i ddarparu data monitro olygu na allwch wneud cais am grantiau sy’n cael eu gweinyddu gan PAVO yn y dyfodol

  • Bydd methu â chydymffurfio â’r amod hwn yn arwain at broses o ‘hawlio arian yn ôl’ efallai a hwyrach y caiff grwpiau eu gwahardd rhag mynediad at gyllid yn y flwyddyn ganlynol.

Unwaith y bydd eich cais yn barod, dylid ei anfon at: grants(at)pavo.org.uk ynghyd â’r dogfennau atodol angenrheidiol.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity