Ceiniogau Powys

Syniad syml iawn yw Ceiniogau Powys sy'n codi arian ar gyfer prosiectau ac elusennau cymunedol lleol ym Mhowys trwy gasglu'r ceiniogau o'ch slipiau cyflog yn fisol.

 

Mae'r cynllun hwn ar gau i geisiadau ar hyn o bryd

Pwy sy'n gallu cymryd rhan?

[Translate to Welsh:]

Mae gweithwyr Cyngor Sir Powys a PAVO yn gallu cymryd rhan mewn ffordd rhwydd, ddi-drafferth er mwyn cefnogi prosiectau ac elusennau cymunedol lleol.

 

Bob mis, wrth dderbyn eich cyflog net (sef y 'cyflog clir' yn dilyn didyniadau) byddwn yn talgrynnu'r cyfanswm at y bunt agosaf. Bydd y ceiniogau sy'n weddill yn cael eu hanfon at elusennau cymunedol ym Mhowys.

Sut mae'n gweithio!

[Translate to Welsh:]

Mae cyflog net misol Sion neu Sian yn £1160.42.

 

Byddai Ceiniogau Powys yn ei dalgrynnu i'r bunt agosaf, gan dynnu 42 ceiniog o'r cyflog net, ac yn gadael Sion neu Sian gyda £1160.00.

Mae'r 42 ceiniog wedyn yn cael eu rhoi i Geiniogau Powys er mwyn cefnogi gweithgarwch elusennol cymunedol o fewn y Sir.

Beth fydd y gost?

 

Dim ond y ceiniogau byddwch yn eu rhoi bob mis, felly go brin y byddech yn sylwi ar unrhyw wahaniaeth yn eich cyflog.  Cyfanswm y ceiniogau sy'n cael eu cyfrannu dros flwyddyn, ar y cyd â'ch cydweithwyr, sy'n gwneud y gwahaniaeth mawr.

 

Beth sy'n digwydd i'r arian?

 

Caiff cyfraniadau at gynllun Ceiniogau Powys eu gweinyddu fel grant cymunedol gan PAVO.

 

Sut i gyfrannu?

 

Mae'n rhwydd iawn ymuno â chynllun Ceiniogau Powys -  mae angen lawrlwytho'r ffurflen isod:

 

Ffurflen Cyngor Sir Powys i Gofrestru ar gyfer Cynllun Ceiniogau Powys 

Os ydych yn gweithio i Gyngor Sir Powys, a byddech yn hoffi trafod y cynllun cyn gwneud eich penderfyniad, ffoniwch adran y gyflogres ar 01597 826240.

Os ydych yn gweithio i PAVO a byddech yn hoffi derbyn mwy o wybodaech, cysylltwch â'r adran cyllid ar 01597 822191.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity