Chwilio am gyllid ar gyfer eich elusen, grŵp cymunedol neu fenter gymdeithasol. O grantiau bach i brosiectau cyfalaf mawr, gallwn eich helpu i gael hyd i’r cyllid sydd ei angen arnoch i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich cymuned chi.
Cyllido Cymru yw’r llwyfan newydd i chwilio am gyllid i’r trydydd sector yng Nghymru. Fe’i datblygwyd gan rwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru i alluogi mudiadau trydydd sector i chwilio drwy gannoedd o gyfleoedd am grantiau ac arian benthyg o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Gall Cyllido Cymru helpu mudiadau yng Nghymru i ddod o hyd i’r cyllid sydd ei angen arnynt yn gynt nag erioed o’r blaen. Mae’r peiriant chwilio yn helpu defnyddwyr i ganfod ffynonellau perthnasol o gyllid yn gyflym ac yn effeithiol. Mae’r wefan ar gael yn rhad ac am ddim, mae ganddi broses gofrestru syml, ac mae modd i fudiadau chwilio am gyllid yn ôl diben, lleoliad a swm, ac mae meysydd pellach ar gael i fireinio canlyniadau chwilio. Mae modd i ddefnyddwyr hefyd gadw canlyniadau chwilio ac argraffu adroddiadau.
Yn ogystal â chwilio am gyfleoedd cyllido mae’r wefan yn cynnwys eitemau newyddion ac astudiaethau achos, ynghyd â dolenni at gymorth, gwybodaeth ac arweiniad a fydd yn sicrhau bod gan fudiadau bopeth sydd ei angen arnynt i wneud ceisiadau da am gyllid.
I ddechrau chwilio drwy gannoedd o gyfleoedd cyllido ewch i funding.cymru.