Cymorth Cyllido

Mae PAVO wedi cynnig cymorth cyllido i grwpiau gwirfoddol a chymunedol ar draws Powys ers dros 25 mlynedd.

"Gwybod pwy, gwybod sut, gwybod pryd" gyda chefnogaeth gwasanaethau cyllido achrededig PAVO.

Gallwn eich cefnogi ar y daith i sicrhau cyllid, beth bynnag fo’r cyfeiriad, ar gyflymder sy’n addas ichi.

Mae ein gwasanaethau AM DDIM ac mae’r ymgynghorwyr cyllido profiadol a chroesawgar yn cynnig

  • Cymorth i ddatblygu cynllun cyllido i reoli gweithgareddau codi arian yn y dyfodol
  • Cymorth i adnabod cyllidwyr megis Ymddiriedolaethau Elusennol, y Loteri a chyrff potensial eraill sy’n rhoi grantiau, fydd yn cyllido eich gwaith
  • Gwirio ceisiadau cyllido ac yn rhoi cyngor ar lenwi ffurflenni
  • Amrediad eang o daflenni gwybodaeth, sy’n delio gyda’r holl agweddau ar gyllido
  • Cymorthfeydd Cyllid o gwmpas y sir i gynnig cymorth 1:1 - cysylltwch â ni i weld pryd fyddwn yn eich ardal chi nesaf.
  • Cymorth i helpu creu incwm o ffynonellau eraill megis masnachu, Cyflenwi Gwasanaethau a Mentrau Cymdeithasol eraill
  • Cefnogi grwpiau i godi arian trwy roddion (Unigol/Corfforaethol) a help ym maes Cymorth Rhoddion, Cymynroddion, ymgyrchoedd codi arian
  • Rheoli cynlluniau grant bach ar gyfer sefydliadau Powys
  • Digwyddiadau a hyfforddiant
  • Derbyn gwybodaeth trwy E-Fwletin PAVO.

Rhoddwyd cyngor inni ar ystyr jargon, a sut i lunio cais cadarnhaol.

Grŵp cyffredin ydym o rieni oedd am gael gwell cyfleusterau o fewn y gymuned, a byddai wedi mor hawdd inni beidio anfon cais am gyllid, heb y cymorth cyfeillgar a phroffesiynol a gafwyd

Roedd y cyswllt wyneb yn wyneb a gafwyd yn ystod y camau cynnar yn hollbwysig o ran cyflwyno ein cais. Heb gymorth, cyngor ac amynedd, ni fyddai wedi bod yn bosib inni ymdopi gyda chais fel hwn, neu bydden ni wedi gwneud llanast llwyr ohono.

I dderbyn cymorth

I wneud ymchwiliad neu a darganfod mwy am ein cymorth cyllido
01597 822 191

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity