Chyflogres

Fel rhan o'n cefnogaeth i'r sector gwirfoddol ym Mhowys, mae PAVO yn cynnig gwasanaeth cadw llyfrau a chyflogres cynhwysfawr cyfrifiadurol, sy'n galluogi mudiadau i ganolbwyntio eu hadnoddau gwirfoddolwyr/staff ar gyflawni eu prif amcanion.

Gwasanaeth Cyflogres

Mae Gwasanaeth Cyflogres PAVO yn Wasanaeth Cyflogres Cyfrifiadurol. Mae'n cynnwys darparu:

  • Crynodeb o'r taliadau, sy'n rhoi manylion llawn yr holl daliadau a didyniadau a wanethpwyd mewn cyfnod tâl penodol.
  • Slipiau cyflog a manylion unrhyw daliadau sy'n ddyledus i swyddfa cyfrifon Cyllid y Wlad.
  • Ar ddiwedd y flwyddyn byddwn yn cwblhau ffurflenni P14/P60 i bob cyflogai, y cyfansymiau sydd eu hangen ar gyfer Datganiad Blynyddol y Cyflogwr (P35) a chyngor a chefnogaeth ar lenwi'r ffurflen.
  • Darparu ac anfon dogfennau i Gyllid y Wlad mewn perthynas â gweithwyr newydd a gweithwyr sy'n gadael.
  • Cyngor a chymorth gyda holl agweddau ar PAYE a'ch cynorthwyo i ddeall y broses o gofrestru gyda Chyllid y Wlad.

Ar ôl sefydlu popeth i gychwyn, y cwbl fydd angen i chi ei wneud yw:

  • Talu eich gweithwyr
  • Talu'r Swyddfa Dreth
  • Ein hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau i'r manylion tâl arferol
  • Cadarnhau ac arwyddo'r datganiad blynyddol er mwyn inni ei anfon i Gyllid y Wlad ar lein

Mae mor syml â hynny!

Ffïoedd

Mae'r ffïoedd canlynol yn berthnasol i'r gwasanaethau llyfrau a chyflogres ar y chwith.

[Translate to Welsh:] Payroll Service

[Translate to Welsh:]

For monthly staff, the current charges, are as follows:

1st employee, £12.00 per month

2nd + employee, £6.00 per payslip

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity