Mae Gwirfoddolwyr Cefnogi’r Heddlu’n cynorthwyo swyddogion a staff yr heddlu gydag amrywiol dasgau gan eu galluogi i ganolbwyntio ar ddyletswyddau plismona craidd, sy’n golygu mwy o swyddogion ar y strydoedd a gwelliant o ran cefnogaeth gymunedol. Bydd cynnal presenoldeb heddlu amlwg yn ein cymunedau hefyd yn helpu’r Heddlu i gyflawni ei amcan o ostwng trosedd, anhrefn ac ofn.
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig a fyddai’n hoffi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Bydd rolau gwirfoddoli’n amrywio mewn nifer o ffyrdd gan ddibynnu ar anghenion y gwasanaeth heddlu.
A oes yna faes penodol o blismona sydd o ddiddordeb i chi? Os oes, cysylltwch â’r Cydlynydd Dinasyddion o fewn Plismona a fydd yn hapus i gynorthwyo wrth archwilio cyfleoedd i chi.
Mae pob un o’n rolau gwirfoddoli’n cael eu hysbysebu ar wefan Gwirfoddoli Cymru, cliciwch yma am restr o’n cyfleoedd cyfredol.
Drwy wirfoddoli cewch:
- gyfle i gefnogi a gwneud cyfraniad i’n cymunedau lleol
- sgiliau a phrofiad mewn amgylchfyd proffesiynol, gan gynyddu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol
- lle diogel, cyfeillgar a diddorol i wirfoddoli
- hyfforddiant mewnol er mwyn ymgymryd â thasgau nad ydych yn gyfarwydd â nhw
- cyfle i gwrdd â phobl
Darperir treuliau ar gyfer teithio a chostau gwariant.
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol, fodd bynnag, rydym yn disgwyl gonestrwydd, uniondeb ac ymdeimlad o ymrwymiad, ac ar gyfer rhai rolau bydd galw am sgiliau arbenigol i gyflawni’r rôl. Mae sgiliau cyfathrebu, rhyngweithio, llythrennedd at thechnoleg gwybodaeth yn ddymunol iawn. Dylai gwirfoddolwyr hefyd ddangos agwedd gadarnhaol a chyfeillgar ynghyd â pharodrwydd i ddysgu.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob safle cymdeithasol a chefndir, beth bynnag eu hoed, rhyw, anabledd, hil, crefydd/cred, cyfeiriadedd rhywiol, neu a ydynt wedi ailbennu rhywedd, yn briod/mewn partneriaeth sifil neu’n feichiog/ar famolaeth.
- Yn 18 oed neu’n hŷn
- Yn Ddinesydd Prydeinig, yn wladolyn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’n ddinesydd y Gymanwlad, neu’n wladolyn tramor heb gyfyngiadau ar eich arhosiad yn y DU
- Eich bod wedi preswylio yn y DU am o leiaf tair blynedd barhaus (bydd rhai rolau’n gofyn am fod wedi preswylio am bum mlynedd barhaus), gyda llai na deuddeg mis wedi eu treulio dramor yn ystod y tair blynedd ddiwethaf (gyda rhai eithriadau i’r rheiny sy’n byw ar safleoedd milwrol y DU).
- Mae ein cyfleoedd gwirfoddoli’n cael eu hysbysebu ar wefan Gwirfoddoli Cymru. I wneud cais am gyfle penodol, bydd gofyn i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol.
- Wedi i chi gyflwyno eich ffurflen gais byddwn yn asesu eich sgiliau, eich ysgogiad a’ch cymhwysedd i ymgeisio.
- Cyfweliad Anffurfiol: Bydd ymgeiswyr sy’n pasio’r cam ymgeisio’n cael eu gwahodd i gyfweliad anffurfiol. Bydd y cyfweliad hwn yn cael ei gynnal gan y rheolwr adran perthnasol, a bydd yn trafod eich sgiliau, pryd rydych ar gael i wirfoddoli, eich ysgogiadau ac eich addasrwydd cyffredinol mewn mwy o fanylder na’r ffurflen gais.
- Gwiriadau cyn gwirfoddoli: fetio’r heddlu, geirdaon, a lle’n briodol prawf meddygol.
- Cychwyn gyda Heddlu Dyfed-Powys: Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn dyddiad cychwyn pan fyddant yn cyfarfod eu rheolwr llinell a’u cydweithwyr er mwyn dechrau ar eu siwrnai gwirfoddoli!
Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â chyfleoedd Gwirfoddolwyr Cefnogi’r Heddlu neu’r broses ymgeisio, anfonwch e-bost at: volunteers(at)dyfed-powys.pnn.police.uk
Fel arall, gallwch gysylltu â Chydlynydd Dinasyddion o fewn Plismona’r Heddlu ar 01267 226463 neu 101 estyniad 23643.