Newyddion Gwirfoddoli

Mae BBC Plant mewn Angen yn chwilio am Gadeirydd ac aelodau newydd i ymuno â Phwyllgor Cynghori Cymru

Rydym yn croesawu ceisiadau gan wirfoddolwyr sydd am rannu ein hymrwymiad i gefnogi plant a phobl ifanc Cymru i fod yn ddiogel, yn hapus a sicr, ac i gyrraedd eu potensial.

 

 

Mae BBC Plant mewn Angen yn newid bywydau plant a phobl ifanc ddifreintiedig ledled y DU.

 

Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn annog ceisiadau o bob rhan o'r gymuned i ymuno â'n Pwyllgor Cynghori. 

Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan y rhai sydd â phrofiad o gefnogi plant a phobl ifanc o: Gymunedau du, Asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig; blynyddoedd cynnar, a'r rhai ag anabledd.

Rydym hefyd yn annog ceisiadau gan oedolion ifanc neu unigolion a allai fod wedi elwa ar gefnogaeth un o'r prosiectau rydym wedi'i ariannu. 

Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ymroddedig a brwdfrydig gefnogi penderfyniadau BBC Plant mewn Angen.

 

Er bod hon yn rôl ddi-dâl, cynigir cymorth priodol i alluogi pob ymgeisydd llwyddiannus i gymryd rhan lawn.

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://careershub.bbc.co.uk/members/modules/job/detail.php?record=52301 

 

Os oes gennych ddiddordeb ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Melinda Connelly ar melinda.connelly(at)bbc.co.uk am sgwrs anffurfiol am yr hyn y mae'r rolau'n ei olygu. 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity