Cynlluniau Galw’r Gyrrwr

Ar hyn o bryd mae 10 o gynlluniau Galw’r Gyrrwr ym Mhowys, yn y lleoliadau canlynol: Llanfyllin, Machynlleth, Y Drenewydd, Llanidloes, Rhaeadr Gwy, Llanwrtyd, Y Gelli Gandryll, Aberhonddu, Crughywel ac Ystradgynlais, ynghyd â dau wasanaeth lloeren a gynigir yn llai aml ym Mhontsenni a Thalgarth.

Lleolir y cynlluniau hyn yn y gymuned, a sefydliadau gwirfoddol sy’n eu rhedeg.  Maent yn berchen ar eu cerbydau eu hunain, naill ai bysiau mini neu ‘gerbydau cludo criw’ ac mae mwyafrif y cerbydau hyn yn hygyrch i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn neu sy’n cael trafferth defnyddio grisiau. Ar gyfartaledd maent yn darparu gwasanaeth ar gyfer radiws o 10 milltir o’r dref dan sylw.

 

Eto, seilir y cynlluniau hyn ar aelodaeth. Ym mwyafrif y cynlluniau, cyfyngir aelodaeth i bobl o fewn ardal y cynllun, sydd oherwydd oedran, anabledd neu gyflwr meddyliol neu gorfforol yn cael trafferth defnyddio dulliau teithio arferol. Mae’r cynlluniau mwyaf newydd yn ymestyn cymhwysedd i unrhyw un gydag anghenion cludiant. Codir ffi aelodaeth flynyddol

Mae’r aelodau’n archebu teithiau ymlaen llaw, a chodir ffi ar gyfer y daith sy’n amrywio yn ôl pellter. Bydd y gwasanaeth yn cludo’r aelod o ddrws i ddrws. Mae’r cynlluniau’n defnyddio staff cyflogedig a gwirfoddolwyr i ddarparu’r gwasanaeth, ac mae’r holl yrwyr yn derbyn hyfforddiant arbennig

 

Mae’r cynlluniau Galw’r Gyrrwr isod yn bodoli ym Mhowys:

  • Galw’r Gyrrwr Aberhonddu a Chrughywel - 01874 624060
  • Galw’r Gyrrwr ardal Bro Ddyfi (ardal Machynlleth) - 01654 700136
  • Galw’r Gyrrwr Y Gelli Gandryll - 01497 821616
  • Cludiant Cymunedol Llanidloes - 01686 414997
  • Cludiant Cymunedol Llanwrtyd  - 01982 552727
  • Cynllun Galw’r Gyrrwr Y Drenewydd a’r Ardal - 01686 622566
  • Gweithredu Cymunedol Croesoswallt - 01691 656882
  • Cymorth Cymunedol Rhaeadr Gwy - 01597 810921
  • Cynllun Ceir Cymunedol Ystradgynlais - 01639 849720

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity