Cynlluniau Cerdyn Tacsi

Mae 2 o'r cynlluniau hyn ym Mhowys - 2 ym Maldwyn (Y Trallwng a Machynlleth). Mae ardaloedd y cynlluniau hyn yn amrywio, ond yr uchafswm fyddai radiws o 10 milltir i ddenu aelodau.

Mae'r holl gynlluniau’n cael eu rhedeg mewn ffordd debyg; mae’r Grŵp Gwirfoddol yn codi arian o ffynonellau amrywiol ac yn defnyddio’r arian yma i gymorthdalu teithiau a wneir gan aelodau yn y tacsi.  Rhoddir tocynnau gwerth 50c yr un i aelodau, hyd at gyfanswm o £50 neu £100 i’r sawl sy’n byw mewn ardaloedd mwy anghysbell. Gellir defnyddio’r tocynnau hyn ar gyfer hanner cost taith mewn tacsi e.e. byddai taith sydd fel arfer yn costio £2 yn costio £1 yn unig a gellir defnyddio’r gwasanaeth 50 o weithiau trwy gydol y flwyddyn.

Mae’r cwmnïau tacsi’n gallu hawlio nôl gwerth y tocynnau gan y Grŵp Gwirfoddol ac mae’n rhaid i’r cwmnïau sydd am gymryd rhan yn y cynllun lofnodi cytundeb gyda’r Grŵp Gwirfoddol. 

Mae nifer yr aelodau’n amrywio o 36 yn y cynlluniau lleiaf i dros 168 yn y cynlluniau mwyaf.  Ym mwyafrif y cynlluniau, cyfyngir yr aelodaeth i unigolion sydd mewn oed, yn anabl neu sy’n dioddef o gyflwr meddyliol neu gorfforol sy’n golygu ei fod yn anodd cael mynediad at ddulliau cludiant arferol. 

Mae’n werth ystyried ffyrdd y gall y Cynlluniau Cerdyn Tacsi wella eu dull o weithio, oherwydd maent yn cynnig cludiant fforddiadwy, hyblyg i grwpiau difreintiedig mewn ardaloedd gwledig.

 

Dyma’r cynlluniau Cerdyn Tacsi sy’n bodoli ym Mhowys:

  • CAMAD (Machynlleth) - 01654 700071
  • Cludiant Cymunedol Y Trallwng - 01938 580459

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity