Cynlluniau Ceir Cymunedol

Ym Mhowys, mae 13 o Gynlluniau Ceir Cymunedol neu Wirfoddol; fe’u lleolir yn: Llanfyllin, Y Trallwng, Machynlleth, Y Drenewydd, Llanidloes, Rhaeadr Gwy, Tref-y-clawdd, Llanandras, Llanfair ym Muallt, Llanwrtyd, Y Gelli Gandryll, Crughywel ac Ystradgynlais.

Asiantaethau Cymorth Cymunedol neu Fiwro Gwirfoddol sy’n rhedeg saith o’r Cynlluniau Ceir Cymunedol, ac maent yn cael eu rheoli gan Bwyllgorau Rheoli’r asiantaethau hynny. Mae’r Cynlluniau’n recriwtio gyrwyr gwirfoddol sy’n defnyddio eu ceir personol i ddarparu’r cludiant o ddrws i ddrws. Mae’r Cynlluniau ar agor i bobl heb fynediad rhesymol at ddulliau cludiant eraill. Ym Mhowys, y flaenoriaeth yw apwyntiadau iechyd, ond hefyd mae’n cynnwys teithiau sy’n bodloni anghenion dyddiol.

 

Mae’r gyrwyr yn cael hawlio costau teithio ar raddfa hyd at 45c y filltir. Gofynnir i ddefnyddwyr dalu rhai o’r costau neu’r holl gost, ond mae angen cyllid ychwanegol i ddiwallu holl gostau rhedeg y gwasanaeth.

Mae’r cynlluniau Ceir Cymunedol isod yn bodoli ym Mhowys:

  • Cymorth Cymunedol Llanfair ym Muallt - 01982 553004
  • CAMAD (Machynlleth) - 01654 700071
  • Biwro Gwirfoddolwyr Crughywel - 01873 812177
  • Galw’r Gyrrwr Y Gelli Gandryll - 01497 821616
  • Cymorth Cymunedol Tref-y-clawdd  - 01547 520653
  • Cludiant Cymunedol Llanidloes - 01686 414997
  • Cludiant Cymunedol Llanwrtyd - 01982 552727
  • Biwro Gwirfoddolwyr Gogledd Maldwyn (Y Trallwng) - 01938 554484
  • Gweithredu Cymunedol Croesoswallt - 01691 656882
  • Cymorth Cymunedol Llanandras - 01544 267961
  • Cymorth Cymunedol Rhaeadr Gwy - 01597 810921
  • Biwro Gwirfoddolwyr De Maldwyn (Y Drenewydd) - 01686 629487
  • Cynllun Ceir Cymunedol Ystradgynlais - 01639 849720

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity