TÎM YMATEB ARGYFWNG SECTOR CYMUNEDOL (C-SERT)

Mae PAVO, o fewn trefniadau partneriaeth y sir, wedi sefydlu Tîm Ymateb Brys Sector Cymunedol (C-SERT).

Mae hyn yn cynnwys sefydliadau sirol sy'n cynnig cefnogaeth gwirfoddolwyr a gwasanaethau ymateb brys, ochr yn ochr â phartneriaid o Gyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Mae C-SERT wedi mabwysiadu dull triphlyg o gefnogi pobl a chymunedau:

1. Rhwydweithiau Cymorth Cymunedol

2. Gwirfoddolwyr Iechyd a Gofal COVID-19 Powys

3. Gwybodaeth ac Ymgysylltu â'r Sector Gwirfoddol COVID-19

Gellir gweld nodiadau o gyfarfodydd C-SERT trwy glicio ar y dolenni isod.

NODIADAU CYFARFOD C-CERT:

17eg Mawrth 2020

24ain Mawrth 2020

31ain Mawrth 2020

CANLLAWIAU i WIRFODDOLWYR

Mae C-SERT wedi datblygu canllawiau ar gyfer gwirfoddolwyr ar draws Powys.

Cliciwch isod i weld y canllawiau

RHWYDWEITHIAU CEFNOGAETH CYMUNEDOL

Mae ein gwasanaeth Cysylltwyr Cymunedol (cliciwch yma am fanylion) yn cefnogi ac yn cydgysylltu tri ar ddeg o rwydweithiau cymorth cymunedol ar draws Powys.

Mae'r rhwydweithiau hyn yn ceisio dwyn ynghyd y nifer fawr o fentrau gwirfoddol anffurfiol a ffurfiol sy'n gweithredu i helpu pobl i gadw'n ddiogel ac yn iach.

Os hoffech chi gymryd rhan yn eich cymuned i helpu pobl, neu os ydych chi'n gwybod am unrhyw sydd angen help, cysylltwch â'r Cysylltwyr Cymunedol.

Gellir cysylltu â'n Cysylltwyr Cymunedol ar 01597 828649 neu drwy e-bostio community.connectors(at)pavo.org.uk

GWIRFODDOLWYR IECHYD A GOFAL COVID-19

GWIRFODDOLWYR IECHYD A GOFAL COVID-19

Rydym yn recriwtio gwirfoddolwyr i helpu gwasanaethau iechyd a gofal statudol yn ystod y cyfnod hwn. Byddwch chi’n

gallu dewis ym mha ardal neu gymuned yr hoffech chi gwirfoddoli.

Mae yna nifer o gyfleoedd gwirfoddoli y gallwch chi eu dewis, gan gynnwys un cyffredinol sydd yn ceisio paru eich profiad, eich gwybodaeth a'ch sgiliau â'r cyfle iawn i chi gyda’r Bwrdd Iechyd.

Cliciwch yma i weld cyfleoedd Gwirfoddoli Iechyd a Gofal COVID-19 Powys ar wefan Gwirfoddoli Cymru.

Cofrestrwch i ymuno â chyfle os hoffech chi ein helpu ni i helpu eraill yn y cyfnod anodd hwn.

 

Gellir dod o hyd i'ch canllaw cam wrth gam ar gofrestru fel gwirfoddolwr ar Wefan Gwirfoddoli Cymru YMA

 

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am wirfoddoli neu help i gofrestru fel gwirfoddolwr, os gwelwch yn dda e-bostiwch volunteering(at)pavo.org.uk

Gwirfoddoli i sefydliadau

Mae llawer o grwpiau gwirfoddol yn recriwtio gwirfoddolwyr i helpu i ddarparu eu gwasanaethau pwysig yn ystod yr amseroedd heriol hyn.

Os hoffech gael unrhyw help i recriwtio, asesi, hyfforddi a gosod gwirfoddolwyr, cysylltwch â ni trwy e-bostio volunteering(at)pavo.org.uk

CEFNOGAETH AC ARIAN ARGYFWNG AR GYFER SECTOR GWIRFODDOL

Mae yna nifer o fentrau sy'n cynnig help i grwpiau a sefydliadau gwirfoddol i ddarparu cefnogaeth a pharhau i fod yn hyfyw.

Cliciwch yma i gael crynodeb diweddaraf o'r help sydd ar gael. 

BWLETIN SECTOR GWIRFODDOL WYTHNOSOL COVID-19

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity