Mae PAVO yn cynnal cynhadledd fawr o'r trydydd sector bob blwyddyn. Mae'n cynnig cyfle i ni i gyd gyfarfod ac edrych gyda'n gilydd ar faterion pwysig.
Dydd Mawrth 19eg Tachwedd 2019
"Beth sydd o bwys? Gwrando ar Drydydd Sector Powys"
Cefn Lea, Dolfor, Newtown, Powys SY16 4AJ
Yr wyf yn falch iawn eich gwahodd i Gynhadledd a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol PAVO a gynhelir eleni ar ddydd mawrth 19 Tachwedd 2019. Fe welwch y rhaglen wedi ei atodi neu gliciwch ar y ddolen hon.
Bydd y diwrnod yn gyfle i ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid ac i wrando ar safbwyntiau, arsylwadau a phersbectif sefydliadau gwirfoddol Powys. Bydd hyn yn llywio datblygiad Cynllun Trydydd Sector newydd ar gyfer Powys.
Bydd y diwrnod yn cynnwys Grwpiau Gwrando Beth sy'n Bwysig sy'n canolbwyntio ar bynciau fel ‘Arian, Dylanwad, Cefnogaeth, Gweledigaeth a'r Gweithlu. Bydd y prynhawn yn canolbwyntio ar drafodaeth banel.
Bydd MARCHNAD TRYDYDD SECTOR hefyd yn rhoi cyfle ichi rwydweithio a hyrwyddo eich gwasanaethau. Gobeithiwn y bydd cymaint o sefydliadau â phosibl yn cynnal stondin.
Mae croeso cynnes yn disgwyl pob gwirfoddolwr, aelod staff ac ymddiriedolwr. Gobeithiaf yn fawr y gallwch ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad. Bydd coffi ar gael o 9.45am cyn dechrau ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol am 10.00am.
Mae Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chynhadledd PAVO yn darparu cyfle gwych i gwrdd â chydweithwyr eraill yn y sector, yn ogystal â phartneriaid mewn sectorau eraill i rannu gwybodaeth ac arfer da.
Er mwyn rhoi gwybod i ni os ydych yn gallu bod yn bresennol, dewis sesiwn gweithdy ac unrhyw ofynion, llenwch y ffurflen archebu ar-lein, ffôn: 01597 822191 neu e-bost: ruth.middleton@pavo.org.uk.
Edrychaf ymlaen at eich gweld ar 19 o Tachwedd.
Yn gywir
Ian Charlesworth
Cadeirydd, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
19 Tachwedd 2019, 10.00am - 3.30pm
Canolfan Gynhadledd Cefn Lea, Y Drenewydd SY16 4AJ
Hyderwn y byddwch gallu bod gyda ni ar gyfer ein Cynhadledd a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac y byddwch yn dosbarthu'r wybodaeth hon drwy eich sefydliad a thrwy eich rhwydweithiau.
Thema'r gynhadledd yw
Cynllun Trydydd Sector Powys
Gwrando ar beth sydd o bwys i’r Sector Gwirffodol ym Mhowys
Bydd y diwrnod yn gyfle i ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid ac i wrando ar safbwyntiau, arsylwadau a phersbectif sefydliadau gwirfoddol Powys. Bydd hyn yn llywio datblygiad Cynllun Trydydd Sector newydd ar gyfer Powys.
Hefyd bydd 'marchnad' y Trydydd Sector yn rhoi cyfle i chi hyrwyddo eich sefydliad a rhwydweithio ag eraill
Bydd gwahoddiadau yn dilyn maes o law.
Cynhaliwyd Cynhadledd a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol PAVO 2018 ar 13 Tachwedd 2018 a’r thema oedd 'Cymunedau Dyfeisgar'.
Etholwyd dau ymddiriedolwr newydd fel rhan o’r broses flynyddol o ethol aelodau Bwrdd PAVO:
Hefyd yn ystod y CCB, ymddiswyddodd Gloria Jones Powell o’i rôl fel Ymddiriedolwr, oedd yn ddigwyddiad arwyddocaol, gan ystyried hyd ei gwasanaeth i’r sefydliad. Bydd llawer o aelodau a sefydliadau partner PAVO yn gyfarwydd gyda gwaith Gloria fel Cadeirydd PAVO dros nifer o flynyddoedd, ond hefyd o safbwynt ei chyfraniad diflino wrth gynrychioli Trydydd Sector Powys a’i fuddiannau mewn nifer o leoliadau a phartneriaethau amrywiol ar draws y sir.
Cliciwch ar y ddolen i weld y PAVO Adroddiad Effaith 2018
Roedd cynrychiolwyr amrediad eang o grwpiau cymunedol lleol a sefydliadau gwirfoddol, ynghyd ag elusennau cenedlaethol a sefydliadau’r sector cyhoeddus yn bresennol yn y gynhadledd; roedd y rhaglen yn cynnwys:
Ymhlith adborth gan y rhai oedd yn bresennol ar y diwrnod roedd y canlynol:
Os nad oeddech yn gallu bod yn bresennol yng Nghynhadledd Flynyddol PAVO 2018, neu os oeddech yno, ond byddech yn hoffi profi peth o’r cynnwys eto, mae’r fideos canlynol yn cofnodi rhannau o’r diwrnod: