Ym 1974 sefydlwyd Cyngor Gwledig Powys o dri Chyngor Cymuned Gwledig annibynnol ym Maldwyn, Maesyfed a Brycheiniog. Newidiodd Cyngor Gwledig Powys ei enw i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys ym 1994.
Trodd PAVO yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant ac yn Elusen Gofrestredig ar 1af Ebrill 1996. Ei Rif Elusennol Gofrestredig yw: 1069557, a'r rhif Cwmni Cyfyngedig trwy Warant yw: 3522144. Y Swyddfa Gofrestredig yw: Marlow, Cilgant y De, Llandrindod, Powys LD1 5DH.
Mae PAVO yn un o 19 o Gynghorau Gwasanaeth Gwirfoddol Cymru. Mae aelodaeth yn agored i bob mudiad gwirfoddol a grwp cymunedol ym Mhowys.
Mae gan PAVO Fwrdd Cyfarwyddwyr sy'n cael ei ethol gan yr Aelodau yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Gall y Bwrdd cynnwys hyd at 25 aelod. Mae PAVO yn cyflog 28 o staff llawn amser a 26 o staff rhan amser, ynytri phrif swyddfa sef Y Denewydd ac Llandrindod.
Mae'r Sector Gwirfoddol ym Mhowys yn cyfrannu at ystod eang o weithgareddau cymunedol ym Mhowys. Mae'n bresenoldeb amrywiol a bywiog yn y Sir, ac yn cynnwys ystod eang o bobl, mudiadau a chymunedau. Mae'n annibynnol o'r wladwriaeth, ac yn bodoli er budd y cyhoedd yn hytrach nag ar gyfer budd ariannol preifat. Mae mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr, grwpiau hunan-gymorth, sefydliadau cydweithredol, mentrau cymdeithasol a mudiadau crefyddol yn rhan o'r sector.
Ym Mhowys, mae'r sector gwirfoddol yn cynnwys dros 2,000 o grwpiau - mae 2056 ar fas data PAVO ( a dros 1,000 o fudiadau sydd â phencadlys tu allan i'r Sir yn trefnu peth gweithgaredd ym Mhowys). Mae 22,313 o ymddiriedolwyr neu aelodau o bwyllgorau rheoli, a 26,346 o wirfoddolwyr eraill, ac mae'r sector yn gyfrifol am gyflogi 3,344 aelod o staff cyflogedig - o'r rhain mae 903 yn swyddi amser llawn. Mae'n gyfrifol am greu incwm o dros £54,519,711 (amcangyfrifir fod hyn yn incwm o £432 y pen). Mae'r darparu gwasanaethau amrywiol i'r gymuned, gan gyflenwi y rhai sy'n cael eu cyflwyno gan asiantaethau statudol. Mae'r sector gwirfoddol ym Mhowys yn cyfrannu £173.6 miliwn i'r economi; o hyn mae £39.5 miliwn yn gyflogau staff ac £129.1 miliwn ar gyfer amser gwirfoddolwyr. [Ffynhonnell: WCVA - Gwybodaeth hanfodol am y sector gwirfoddol ym Mhowys - Arolwg gan Banel Sector Gwirfoddol Cymru: Adroddiad 1.3.7 2005]
Mae sector gwirfoddol Powys yn darparu gwasanaethau i bobl yn y Sir sy'n cyfrannu at fywyd cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol, ac at iechyd a lles eu cymunedau. Mae'r gwasanaethau hyn yn cyflenwi'r rhai a ddarperir gan gyrff cyhoeddus ac yn cyfrannu at wella gwasanaethau cyhoeddus megis iechyd a gofal cymdeithasol, gwasanaethau i blant, gwasanaethau i bobl ifanc, tai, addysg a hyfforddiant, mynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd, gwasanaethau ailgylchu gwastraff, adfywio cymunedau, cludiant a chamddefnyddio sylweddau.
Yn 2005, arwyddwyd y Cytundeb Partneruiaeth rhwng Llywodraeth y Cynulliad, CGGC, Cyngorhau Gwirfoddol Sirol a chanolfannau gwirfoddoli annibynnol. Roedd y cytundeb newydd hwn yn rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol i rôl Cyngorahu Gwirfoddol Sirol, canolfannau gwirfoddoli a CGGC fel tair rhan o isadeiladwaith y sector gwirfoddol. Roedd yn rhoymrwymiad ariannu am bum mlynedd, ac yn cyflwyno am y tro cyntaf erioed, ariannu craidd i ganolfannau gwirfoddoli. Yn unol â naws Creu'r Cysylltiadau, roedd yr isadeiladwaith yn ymrwymo i gydweithio ar draws ffiniau er mwyn gweld sut i ddiwallu anghenion y trydydd sector orau, ac i gael gwared ag unrhyw ddyblygu er mwyn rhyddhau adnoddau ar gyfer gwasanaethau rheng flaen.
Gan ddefnyddio Creu'r Cysylltiadau fel sail, her yr isadeiladwaith yw dangos ei fod yn canolbwyntio ar ddinasyddion - yn ymateb i ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, gweithwyr, aelodau a buddiolwyr sydd oll yn rhan o'r trydydd sector. Mae angen gweithio ar safonau gwasanaethau diffiniedig, sy'n nodi'r glir yr hyn y gall gwasanaethau a grwpiau cymorth eu disgwyl. Ac mae angen bod yn fwy cydgysylltiedig, a dileu dyblygu gwastraffus, a gwneud y defnydd gorau o adnoddau ar gyfer gwasanaethau rheng flaen i bobl yn y trydydd sector.
Mae'r Cytundeb Partneriaeth cyfredol yn parhau hyd at 2010. Yr Her yw dangos fod y Cytundeb wedi arwain at wasanaeth unigryw, o safon uchel, sydd yn gost effeithiol, di-dor, cydnabyddedig a dylanwadol sy'n tanategu lleisiau dinasyddion a gweithredoedd dinasyddion yng Nghymru.
Sef manylebau, sydd wedi'u tanategu gan hyfforddiant cynhwysfawr a fframweithiau gwybodaeth, yn nodi pwy sy'n gwneud beth i ddiwallu anghenion y sector ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Y nod oedd sicrhau fod yr holl wasanaethau a gyflwynir yn cael eu cyflwyno gan staff hyfforddedig a chymwys, ac o safbwynt y defnyddiwr, eu bod yn ddi-dor, yn gyson ac yn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Bydd unrhyw beth sydd angen ei wneud unwaith - megis cynhyrchu a diweddaru taflenni gwybodaeth, dylunio cyrsiau hyfforddi - ond yn cael ei wneud unwaith, ac felly'n lleihau dyblygu adnoddau mewn dull gwastraffus, a rhyddhau staff i ganolbwyntio ar weithio'n ungiongyrchol gyda grwpiau.
Mae'r manylebau'n cynnwys:
- gwirfoddoli
- ymddiriedolwyr a llywodraethu
- cyngor ariannu
- gwybodaeth gyffredinol, arweiniad a chefnogaeth
- polisi, hwyluso a chynrychioli
- datblygu, mentrau ac adfywio
Os am weld ein Datganiad o Genhadaeth a Gwerthoedd, cliciwch yma.
Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy
Mae gan PAVO dros 130 o daflenni gwybodaeth sy’n rhoi gwybodaeth ac arweiniad ymarferol i grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol ... dysgu mwy
Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy
Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy
Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy
Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy
Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy