Newyddion Gwirfoddoli ym Mhowys

Cyfle i ddysgu pa ddigwyddiadau cyffrous neu gyraeddiadau penigamp sydd wedi digwydd ym Mhowys. Os oes gennych erthyglau neu eitem ar wirfoddoli yr hoffech ei anfon atom, croeso i chi gysylltu â Chanolfan Gwirfoddoli Powys drwy e-bost neu drwy Ddesg Gymorth PAVO ar 0845 0093288

(copy 3)

no news in this list.

Gwirfoddolwr y Flwyddyn ym Mhowys

Mae'r digwyddiad gwobrwyo blynyddol yn cydnabod ac yn dathlu'r unigolion a'r grwpiau hynny sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'w cymunedau trwy roi eu hamser o'u gwirfodd.

I ddysgu mwy am y gwobrwyon a darganfod pwy sydd wedi ennill yn y blynyddoedd blaenorol, cliciwch ar y linc yma. 

Biwro Gwirfoddoli Lleol yn ennill Gwobr Glodfawr

Biwro Gwirfoddoli Crughywel yw'r mudiad cyntaf ym Mhowys i dderbyn cydnabyddiaeth am yr amser a dreulir a'r ymdrech a wneir yn y gymuned, trwy lwyddo i ennill gwobr glodfawr.
Lleolir y Biwro Gwirfoddoli yng Nghanolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crughywel a derbyniodd Gwobr Tair Blynedd "Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru" (WCVA) sy'n rheoli Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yng Nghymru.

Dywedodd Nigel Davies, ymgynghorydd gwirfoddoli'r WCVA, “Mae 21 o fudiadau yng Nghymru sydd wedi ennill y wobr hon; ymgeisiodd 12 mudiad ym Mhowys ar ei chyfer, a dim ond un, Biwro Gwirfoddoli Crughywel lwyddodd i'w hennill.”

Mae'r wobr hon yn annog pobl i ddathlu Gwirfoddoli.  Mae hyn yn bwysig, oherwydd mae hanner poblogaeth Cymru'n gwirfoddoli mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.  Mae hefyd yn dangos proffsiynoldeb y Biwro Gwirfoddoli mewn perthynas â'i wirfoddolwyr.  Seilir y wobr ar bedwar maes rheoli gwirfoddoli, cynllunio cyfraniad gan wirfoddolwyr, recriwtio gwirfoddolwyr, dethol a pharu gwirfoddolwyr ar gyfer cyfleoedd, cefnogi a chadw gwirfoddolwyr.
Rhannwyd y pedwar maes hyn yn chwe cham a 40 o adrannau; lluiwyd y rhain yn sgil ymgynghori helaeth a gwaith peilot gyda mudiadau sy'n ymwneud â gwirfoddoli.
Mae'r wobr yn galluogi mudiadau i adolygu eu dulliau rheoli gwirfoddoli a hefyd dangos eu hymrwymiad i wirfoddoli.
Mae gan Fiwro Gwirfoddoli Crughywel dros 200 o wirfoddowlyr, yn amrywio o 15 - 85 oed, sy'n helpu allan gyda rolau sydd o fudd i'r gymuned trwy brosiectau megis Pryd ar Glud, Cynllun Ceir Cymunedol, Prosiect Gofal Iechyd Parhaus, a Phrosiect Diffibriliwr sy'n cael ei arwain gan Bobl Ifanc.

Dywed Rheolwr Biwro Gwirfoddoli Crughywel,  Kerry Crosfield “Mae gweithio tuag at Wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr wedi bod yn her enfawr, gyda llawer o amser yn mynd ar sicrhau fod ein polisïau, ein gweithdrefnau a'n systemau diogelu i gyd yn gyfredol.Dengys hyn ein bod yn gallu rhoi'r amser, yr ymrwymiad a gofal ar leoliad haeddiannol i'n holl wirfoddolwyr. mae hyn yn dangos ein gwerthfawrogiad am yr amser a'r ymwymiad a gynigir ganddynt i wirfoddoli ar ein prosiectau.  I gychwyn, roedd y gwaith ynghlwm wrth hyn yn hynod anodd ac yn cymryd llawer o amser; fodd bynnag, diolch i gefnogaeth ein Hymddiriedolwyr a phartneriaid megis y WCVA a PAVO darganfuwyd fod yr her wedi bod yn fuddiol inni, ac rydym wrth ein bodd gyda'n llwyddiant i ennill y wobr hon”.

Mae llawer o brosiectau ar y gweill gennym, sydd angen gwirfoddolwyr o bob oed a gallu; dylai unrhyw un sydd am fod yn rhan o'r tîm hwn sy'n tyfu o hyn yng Nghrughywel a'r ardal gyfagos, gysylltu â: Kerry Crosfield ar 01873 812177 neu drwy ebostio: kerryc@volunteerbureau.orangehome.co.uk neu galwch heibio am sgwrs yn swyddfa'r Biwro Gwirfoddoli yng Nghanolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crughywel, yn Heol Beaufort, Crughywel.

Lansio Diffibriliwr HI-Society Crughywel

Derbyniodd Isobel Toy a Henry Galletta £2000 trwy Gynllun Grantiau Gwirvol.

Ddydd Gwener 24ain Medi 2010, dathlodd Biwro Gwirfoddoli Crughywel a gwirfoddolwyr Prosiect HI-Societygyda pharti i lansio diffibriliwr y dref. Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol, gyda chyflwyniad am y prosiect ac arddangosfa ynghylch cynnal bywyd gyda diffibriliwr.

Dywed Kerry Crosfield - Rheolwr 'Hoffwn ddiolch i bawb ddaeth i'n parti lansio, ac yn arbennig i Isobel Toy a Henry Galletta am sefydlu'r prosiect, i Rosie Toy am ddylunio'r taflenni ac wrth gwrs i'n Hyfforddwr Cymorth Cyntaf, Mary Toy. Mae'r prosiect wedi'n galluogi i dynnu sylw at yr angen am ddiffibriliwr sy'n cynnig mynediad i'r cyhoedd yn ein tref wledig a'r pentrefi cyfagos, ac mae'r gymuned leol, Ysgol Uwchradd Crughywel, a'r Cynghorau Tref a Chymuned hefyd yn ein cefnogi.

Rydym wedi hyfforddi 61 o bobl mewn hyfforddiant cymorth cyntaf diffibriliwr,ac rydym yn dymuno parhau â'r prosisect, ac mae gyda ni darged o brynu diffibrilwyr eraill a hyfforddi pobl ym mhob un o'r pentrefi cyfagos.  Mae hwn yn brosiect enfawr, a bydd angen gwneud llawer o waith i godi arian, ond mae 21 o wirfoddolwyr yn weithgar ar y prosiect hwn, ac rwyf yn hyderus y gallwn cyrraedd ein targed.'

(copy 2)

Lansio Diffibriliwr HI Society

i fyny

YN EISIAU: Pobl ifanc i ymuno â ' Gwirforce'

Partneriaieth amryfal Gymreig unigryw yw GwirVol sy'n hyrwyddo, cefnogi a datblygu gwirfoddoli ymysg pobl ifanc. Fel grwp, mae gan Gwirforce ran hollbwysig i'w chwarae yn y bartneriaeth hon.

 

Beth yw Gwirforce felly?

 

Panel amrywiol o wirfoddolwyr ifanc llawn bywyd a hwyl 16 - 25 oed yw Gwir-lu, sydd wedi ymrwymo i hyrwyddoa hybu gwaith gwirfoddol ieuenctid yng Nghymru.

Mae ymuno â Gwirforce yn ffordd wych i ddatblygu eich sgiliau, cwrdd â llawer o bobl newydd, newid barn am bobl ifanc, a rhoi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned chi, heb anghofio cael llawer o sbort wrth gwrs! Mae'r is-grwpiau canlynol yn rhan o Gwirforce: Llysgenhadon, Peirianwyr a Marchnadwyr, er y gwneir yr holl benderfyniadau pwysig gan bleidlais gan y panel gyfan.


Oes gennych ddiddordeb mewn ymaelodi â Gwirforce? 

 

Am fanylion pellach, cysylltwch â:  Gwirforce

Dan ofal: Canllaw Online,

Swît 5, Yr Octagon, Parc Busnes Caerffili, Heol y Fan, Caerffili CF83 3ED

 

Ffônl: 029 20 887868

Ffacs: 029 20 880479

E-bost: ed@canllaw-online.com

 

 

I ddysgu mwy am gyfleoedd gwirfoddoli ym Mhowys, cliciwch ar y linc uchod, a dilynwch y dolenni at eich biwro gwirfoddoli agosaf.

 

 

Mae gan PAVO gyfres o daflenni gwybodaeth sy'n delio gyda gwirfoddoli - gellir dewis eu lawrlwytho. Cliciwch ar y linc uchod.

Ymunwch â PAVO

Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy

Hyfforddiant

Mae PAVO yn darparu cyrsiau hyfforddi ar holl agweddau rhedeg grwpiau cymunedol a mudiadau ... dysgu mwy

Mae Asiantaeth Hyfforddi Cludiant Powys yn darparu cyrsiau hyfforddi ym maes cludiant a gwybodaeth ... dysgu mwy

Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys

Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy

Plant a Phobl Ifainc

Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles

Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy

Cludiant Cymunedol

Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy

Datblygu Cymnunedol

Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy

Click to search for community and voluntary organisations within Powys
nôl i ben y tudalen

Porwch PAVO