Mae'r tîm o Weithwyr Datblygu sydd gan PAVO yn darparu cefnogaeth i grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol ar y materion ymarferol sy'n eu hwynebu wrth iddynt ddatblygu.
Mae ein Gweithwyr Datblygu yn gweithio'n uniongyrchol gydag ymddiriedolwyr a staff grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol unigol, gan ddarparu cefnogaeth i'w helpu i lwyddo i gyrraedd eu nodau.
Mae'r gefnogaeth yma'n amrywio o gymorth ac arweiniad wrth sefydlu grwp neu fudiad o'r newydd; i'ch cynorthwyo i ddatblygu gweithgareddau a phrosiectau grwp sydd eisoes yn bodoli; ac os oes angen, helpu'r grwp i ddirwyn ei weithgareddau i ben.
Gallwn ddarparu gwybodaeth, arweiniad, a chefnogaeth ar ystod eang o faterion, gan gynnwys:
- Cyngor a chefnogaeth ariannol i'ch helpu datblygu'r sgiliau i lunio ceisiadau ariannol
- Arweiniad ar ddatblygu eich prosiect
- Cynllunio busnes a datblygu strategaethau cyllido
- Paratoi diwygiad i ddogfennau llywodraethu
- Cofrestru fel elusen
- Datblygu polisïau a gweithdrefnau
- Ymgysylltu â'ch cymuned a defnyddwyr eich gwasanaethau
- Hyfforddiant
- And much more besides
Os oes angen cymorth ar eich grwp cymunedol neu fudiad gwirfoddol i ddatblygu ei hunan neu ei weithgareddau, croeso i chi gysylltu â Desg Gymorth PAVO yma neu drwy ffonio 0845 009 3288.
Fel arall, gellir cysylltu â ni drwy'r post: PAVO, Marlow, Cilgant y De, Llandrindod, Powys LD1 5DH.
Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy
Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy
Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy
Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy
Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy
Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy