Oes angen i'ch grwp cymunedol chi lunio Polisi Cyfleoedd Cyfartal o'r cychwyn cyntaf?
Ydy'ch mudiad yn adolygu ac yn monitro'r polisi cyfredol yn rheolaidd?
Mae canllawiau syml, newydd ar gael erbyn hyn i helpu grwpiau gwirfoddol a chymunedol i lunio polisi Cyfleoedd Cyfartal.
Eich sylwadau: byddai PAVO yn falch i glywed gennych
a) os ydy'r Canllawiau Cyfleoedd Cyfartal wedi bod yn ddefnyddiol i chi
b) os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut y gellir eu gwella neu
c) os hoffech gael cymorth pellach i adolygu neu ddatblygu eich polisi.
Nid yw mynediad i wasanaethau'n golygu gosod rampiau a llydanu drysau i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn yn unig - mae'n golygu ei wneud yn haws i bob person anabl ddefnyddio gwasanaethau, gan gynnwys pobl sy'n ddall, yn fyddar neu sydd ag anabledd dysgu neu broblem iechyd meddwl. Mae mynediad hefyd yn golygu fod pobl yn gwybod am fodolaeth eich gwasanaeth chi a'u bod yn gallu ei ddefnyddio.
Mae hyn yn golygu fod eich gwybodaeth yn hygrych -gall pobl ei darllen yn hawdd, mae'r wybodaeth mewn teip darllenadwy, mewn iaith y gellir ei deall (ac mae hynny'n golygu'r geiriau yn ogystal â'r iaith a ddefnyddir) ac mae'r wybodaeth mewn lle sy'n anghyfyngedig.
Golyga hyn fod pobl yn gwybod lleoliad eich gwasanaeth a'u bod yn gallu ei ddefnyddio - mae'r dull o gael mynediad i'ch gwasanaeth yn glir, e.e. dros y ffôn, y rhyngrwyd neu drwy alw heibio.
Mae hyn yn golygu y gall eich mudiad addasu'r gwasanaeth yn ôl anghenion gwahanol bobl - gall pobl sydd ag anawsterau darllen, ddarllen eich gwybodaeth; mae gan bobl sy'n defnyddio iaith wahanol ddewis, mae pobl sy'n cael trafferth defnyddio'r ffôn yn gallu defnyddio'r rhyngrwyd neu alw heibio.
'Mae tystiolaeth yn dangos fod y buddion i fusnesau'n sylweddol. Er hynny, mae cydraddoldeb dal yn destun camddealltwriaeth. Y gwir yw fod mynd i'r afael â gwahaniaethu'n helpu denu, annog a chadw staff. Mae'n helpu cyflogwyr i wneud y defnydd gorau o sgiliau a phrofiad. Gall arwain at weithlu mwy amrywiol, syniadau newydd a mynediad i farchnadoedd ehangach. Yn fyr, mae tegwch a chynhyrchiant yn mynd law yn llaw.'
Adran Gwaith a Phensiynau
'Polisi'r Ymddiriedolwyr ar y cyfan yw cefnogi...elusennau sy'n galluogi pobl, yn enwedig rhai dan anfantais neu bobl anabl i chwarae rôl mwy cyflawn yn y gymuned. Mae hyrwyddo cyfleoedd cyfartal yn sylfaenol i gyflawni'r polisi hwn'
Sefydliad Lloyds TSB
'Cynnwys pobl o bob oed a gallu yn y gymuned, a mynd i'r afael ag anghenion grwpiau sy'n cael eu dieithrio ar lefel gymdeithasol e.e. drwy gefnogi prosiectau sy'n cael eu datblygu gan grwpiau gwirfoddol bychain sy'n gweithio gyda grwpiau gwledig ynysig o fewn ardaloedd.
Atgyfnerthu hunaniaeth ddiwylliannol ac ieithyddol y gymuned e.e. drwy gefnogi grwpiau Cymraeg sy'n seiliedig yn y gymuned megis Ysgolion Meithrin, eisteddfodau a thrwy weithio mewn partneriaieth gyda'r Fenter Iaith. Gellir dyrannu grantiau i gynhrychu byrddau arddangos i'r eisteddfod leol neu ddeunyddiau Cymraeg i'r Ysgol Feithrin'
Meini prawf Grant Cymunedau sy'n Gallu PAVO
Nodir isod hanfodion y dylai'ch mudiad eu hystyried er mwyn datblygu gwasanaeth teg a chyflawn.
- Ydy pawb yn cael ei dderbyn am yr hyn/pwy ydyn nhw, neu ydy pobl yn eu barnu?
- Ydy'ch mudiad yn cael ei reoli mewn ffordd agored a democrataidd?
- Sut mae pobl yn cael gwybod am eich gwasanaeth?
- Ydych chi'n adnabod eich cymuned?
- Ydych chi wedi asesu pwy fydd yn methu defnyddio eich gwasanaeth efallai?
- ydych chi'n gallu addasu (yn rhesymol) y ffordd y darperir eich gwasanaeth er mwyn diwallu gwahaniaethau, e.e. anabledd, gofynion dietegol, cyfathrebu, neu a yw'r gwasanaeth yn anhyblyg?
- Ydy ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a staff eich mudiad yn gyfarwydd gyda gwerthoedd eich mudiad mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth?
- Ydy'r ymddiriedolwyr wedi llunio datganiad clir ynghylch gerthoedd y mudiad mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth?
- Sut ydych chi'n gwybod fod pobl o gefndiroedd amrywiol yn defnyddio eich gwasanaeth?
- Sut ydych yn delio gydag anghydraddoldeb a gwahaniaethu?
- Beth yw barn pobl am eich gwasanaeth?
Am fwy o wybodaeth a dolenni defnyddiol, ewch at y dudalen adnoddau cydraddoldeb yma.
Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy
Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy
Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy
Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy
Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy
Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy