Mae'r term 'cydraddoldeb' yn air llaw fer ar gyfer yr holl waith a wneir gan fudiad i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a herio gwahaniaethu. Mae'r syniad o Gyfleoedd Cyfartal, a deddfwriaeth, wedi tueddu i ganolbwyntio ar grwpiau penodol megis hil, cenedl, anabledd, rhywioldeb, crefydd ac oedran. Ond yn ymarferol, mae cydraddoldeb yn fwy na'r hyn a olygir gan y ddeddfwriaeth. Mae cydraddoldeb go iawn yn ymwneud ag integreiddio parch am amrywiaeth ac egwyddorion a'r arfer o gyfleoedd cyfartal i waith bob dydd eich mudiad chi. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn ardaloedd gwledig megis Powys, lle mae mynediad i wasanaethau a'r dewis o wasanaethau yn fwy cyfyngedig.
Mae Cydraddoldeb yn ymwneud â sicrhau fod pobl yn cael eu trin yn deg, a'u bod yn cael cyfleoedd teg. Nid yw cydraddoldeb yn golygu trin pawb yn yr un ffordd, ond mae'n cydnabod fod eu hanghenion yn cael eu diwallu mewn ffyrdd gwahanol.
Mae'n berthnasol inni gyd. Mae cydraddoldeb yn golygu gwneud pethau mewn ffordd wahanol i rai pobl fyddai fel arall dan anfantais, megis pobl sy'n siarad iaith arall, pobl anabl, menywod, pobl mewn oed, pobl ifanc, plant, pobl o grwpiau ethnig duon a lleiafrifol, pobl hoyw, lesbiaidd a deurywiol a phobl sydd â chredoau gwahanol.
Fodd bynnag, mae grwpiau o bobl sy'n cael eu dieithrio'n gymdeithasol hefyd yn wynebu anfantais a gwahaniaethu. Mae angen meddwl am ffyrdd i ddiwallu anghenion pobl sy'n cael eu dieithrio'n gymdeithasol megis ffoaduriaid, ceiswyr lloches, gweithwyr mudol, pobl ddigartref, pobl sy'n camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, a'r rhai sydd â salwch meddwl.
Mae'r rhestri yma'n cynnwys llawer o bobl, ond dylem fod yn ymwybodol na ellir rhannu pobl i flychau cyfleus, a gallent cael eu cynnwys dan nifer o'r teitlau hyn. Mae pobl yn gymhleth, ac nid ydynt o reidrwydd yn ffitio un dosbarth yn unig. Os byddwn yn canolbwyntio ar un o'r grwpiau hynny, byddwn yn debygol o ddieithrio eraill. Bydd rhywun bob tro yn cael ei anghofio, a gorsymleiddio cydraddoldeb yw cymryd yn ganiataol y byddwn wastad yn iawn.
Mae cydraddoldeb yn effeithio ar bawb, a gall unrhyw un ohonom deimlo'n llethol neu dan anfantais rhywbryd yn ystod ein bywydau. Mae hyn yn gysylltiedig â pherthynas grym yn ein bywydau. Mae defnyddio dull cyfartal o weithio yn golygu defnyddio'r grym yna mewn ffordd deg. Golyga hyn addasu er mwyn rhoi mynediad cyfartal i wasanaethau e.e. nid yw defnyddio adnoddau i ddarparu lle maes parcio i alluogi person anabl i gael mynediad haws i adeilad yn driniaeth ffafriol, ond mae'n rhoi'r un gallu i'r person anabl gael mynediad i adeilad â phobl nad oes ganddynt anabledd.
I fudiadau gwirfoddol a chymunedol, yn ymarferol mae hyn yn golygu fod;
- Cydraddoldeb yn ganolog i bob polisi ac arfer
- Eich gwasanaethau ac arferion cyflogi ar gael ac yn hygyrch i bob cyfranogwr potensial
- Dim effaith negyddol ar grwpiau dan anfantais o'ch arferion chi
- Gwahaniaethu'n cael ei herio a'i ddileu
Nid yw cydraddoldeb yn golygu:
- Hoffi pawb
- Gwneud rhywbeth i fod yn wleidyddol gywir
- Gwneud pethau'r un peth i bawb, a pheidio â chynnig dewis
- Gwneud rhai pobl yn fwy cyfartal nag eraill
- Cael polisi yn ei le yn unig
- Sicrhau nad ydych yn torri'r gyfraith
Gwyliwch rhag gymryd yn ganiataol:
- Nad yw perthyn i grwp difreintiedig yn golgyu na fyddwch yn gormesu grwpiau difreintiedig eraill
- Meddwl fod rhai grwpiau difreintiedig yn fwy haeddiannol nag eraill
- Fod rhestrau o grwpiau difreintiedig yn cynnwys pawb - bydd rhywun wedi cael ei anghofio
- Meddwl fod difreintiedig yn golygu eich bod yn perthyn i grwp sydd fel arfer yn cael ei ystyried wedi'i ddieithrio.
Mae cryfder y sector gwirfoddol a chymunedol yn creu cyngrheiriau ymysg pobl nad ydynt o reidrwydd yn rhannu'r un barn neu brofiadau, tra'n parchu gwahaniaethau mewn diwylliannau, gallu a blaenoriaethau pobl. Mae cymunedau'n amrywio yn y ffordd maent yn profi pethau, a'r pethau a brofir oherwydd eu hanes a diwylliant, sy'n golygu y dylid cydnabod a diwallu eu hanghenion amrywiol.
Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy
Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy
Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy
Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy
Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy
Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy