Rhaglen wedi'i leoli yng Nghaerdydd yw Heneiddio yng Nghymru sy'n rhedeg cyrsiau ar gydraddoldeb oedran, gan gynnwys cyrsiau achrededig y Brifysgol Agored.
Am fanylion, cysylltwch â Ceri Cryer, Rheolwr y Rhaglen ar 02920 865 902
Llawlyfr hyfforddi dwyieithog: Gellir prynu canllawiau hwylusydd i'r rhaglen Heneiddio yng Nghymru sy'n amlinellu'r dulliau a ddefnyddir ar gyrsiau hyfforddi ac sy'n cynnwys arferion ymarferol.
Siaradwyr, hyfforddiant pwrpasol neu bresenoldeb mewn digwyddiadau allanol ar faterion yn ymwneud â phobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol ar gael pe gofynnir. Hefyd mae ysstod o ddogfennau ymchwil a thaflenni dwyieithog i godi ymwybyddiaeth ar gael.
www.stonewallcymru.org.uk neu ffoniwch 02920 237 744
Mae'r BHA wedi llunio arweiniad ysgrifenedig i awdurdodau a mudiadau cyhoeddus fydd efallai'n ymgymryd â gwaith ym maes 'crefydd neu gredau'. Mae'n rhoi gwybodaeth ar ddeddfwriaeth gyfredol mewn perthynas â 'chrefydd neu gredau' ac mae'n cynnwys canllawiau arfer da ar gynlluniau cyflogaeth a chydraddoldeb.
Mae'r BHA hefyd wedi dylunio pecyn cymorth i gefnogi ymarferwyr cydraddoldeb yn eu gwaith trwy roi arweiniad a gwybodaeth am y 'maes' trwy ymarferion a chyflwyniadau. Gall unrhyw un sy'n gyfforddus yn rhoi cyflwyniadau ei ddefnyddio, a gellir ei gyflwyno i gydweithwyr yn y sector cydraddoldeb, grwpiau 'crefydd neu gredau a grwpiau cymunedol eraill.
Disgrifia Michelle ei hunan fel traws-ddynes. Mae ganddi brofiad personol o'r anghydraddoldebau a'r gwahaniaethau y mae trawsrywolion yn eu dioddef o ddydd i ddydd. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn hyrwyddo derbyniad a dealltwriaeth o drawsrywolion, ac mewn cyflwyno safbwynt trawsrywolion i unrhyw un sy'n fodlon gwrando; i'r perwyl hynny mae hi'n gweithio gyda mudiadau yn trafod yr anawsterau y mae hi a llawer o drawsrywolion eraill yn eu dioddef o ddydd i ddydd.
Mae Michelle wedi llunio ac wedi cyhoeddi taflen (Mehefin 09) 'Transfacts' - casgliad bach o wybodaeth all fod yn ddefnyddiol. Taflen onest a llawn gwybodaeth sy'n hawdd ei llawrlwytho.
Am fwy o wybodaeth a manylion y gost, cysylltwch â Michelle ar 07976 717 242
CD ROM rhyngweithiol yw hwn a luniwyd fel adnodd i athrawon, pobl ifanc a gweithwyr iechyd sy'n dechrau gweithio gyda phobl ifanc Sipsiwn Teithiol, ac sydd am wybod mwy.
Mae'r CD yn cynnwys cyfeiriadau helaeth i astudiaethau, prosiectau ac adnoddau blaenorol er mwyn sicrhau darlun helaeth a chytbwys o'r problemau a wynebir.
Dolen i'r wefan - gellir lawrlwytho copi yma
Mae hon yn ffeil FAWR IAWN IAWN mewn rhaglen weithredadwy (46MB) felly byddwch yn amyneddgar iawn/ewch i wneud paned (os nad ydych ar fand eang, peidiwch â cheisio ei lawrlwytho!)
Neu gellir ofyn am CD (£4.50 y copi, sy'n cynnwys postio a phacio)
Yn ymgyrchu dros barch a chydraddoldeb i drawsrywolion, mae'n rhoi cyngor cyfreithiol, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth i gyflogwyr a mudiadau, yn ogystal ag ymgymryd â gwaith ymchwil a gomisiynir a chyhoeddiadau.
Gall Press for Change ddarparu'r canlynol i chi a'ch mudiad
- Hyfforddiant perthnasol a chyffrous sy'n bwrpasol i'ch anghenion chi
- Cyngor cyfreithiol ar gydraddoldeb i drawsrywolion a deddfau eraill sy'n berthnasol
- Gwasanaeth Ymgynghori: asesiad effaith; archwiliad cydraddoldeb; adolygu polisi; newid diwylliant
- Cyhoeddiadau pwrpasol
Ewch at eu gwefan www.pfc.org.uk
Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy
Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy
Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy
Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy
Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy
Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy