Ar hyn o bryd mae naw o Gynlluniau 'Dial-a-Ride' ym Mhowys, yn ardaloedd Aberhonddu, Y Drenewydd, Y Gelli, Ystradgynlais, Machynlleth, Tanat a Chain (Gogledd Maldwyn), Llanwrtyd, Rhaeadr a Llanidloes. 

Cynlluniau cymunedol yw'r rhain, sy'n cael eu rhedeg gan fudiadau gwirfoddol. Maent yn berchen ar eu cerbydau eu hunain, naill ai bysiau mini neu 'people carriers', ac mae'r rhan fwyaf o'r cerbydau hyn yn addas i'w defnyddio gan bobl mewn cadair olwyn neu bobl sy'n cael trafferth gyda grisiau. Ar gyfartaledd maent yn gwasanaethu o fewn cylch 10 milltir o'r dref lle lleolir y cynllun. 

Seilir y cynlluniau hyn ar aelodaeth. Yn y rhan fwyaf o'r cynlluniau, cyfyngir aelodaeth i bobl yn ardal y cynllun sydd, oherwydd henaint, anabledd neu gyflwr meddyliol neu gorfforol, yn cael trafferth defnyddio cludiant cyffredin.  Mae'r cynlluniau mwyaf diweddar yn cynnig gwasanaeth i unrhyw un sydd angen cludiant. Codir tal aelodaeth flynyddol. 

Mae aelodau'n trefnu eu teithiau ymlaen llaw, a chodir tal sy'n dibynnu ar bellter y daith. Bydd y gwasanaeth yn cludo'r aelod o ddrws i ddrws. 

Mae'r cynlluniau'n defnyddio staff cyflogedig a gwirfoddolwyr er mwyn darparu'r gwasanaeth, ac mae pob gyrrwr yn derbyn hyfforddiant arbennig.

 

 

 

Ymunwch â PAVO

Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy

Hyfforddiant

Mae PAVO yn darparu cyrsiau hyfforddi ar holl agweddau rhedeg grwpiau cymunedol a mudiadau ... dysgu mwy

Mae Asiantaeth Hyfforddi Cludiant Powys yn darparu cyrsiau hyfforddi ym maes cludiant a gwybodaeth ... dysgu mwy

Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys

Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy

Plant a Phobl Ifainc

Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles

Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy

Cludiant Cymunedol

Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy

Datblygu Cymnunedol

Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy

Click to search for community and voluntary organisations within Powys
nôl i ben y tudalen

Porwch PAVO