Mae 7 o'r cynlluniau hyn ym Mhowys - 2 ym Maldwyn (yn y Trallwng a Machynlleth), 3 ym Maesyfed (Llandrindod, Llanandras a Threfyclo) a 2 ym Mrycheiniog (Llanfair-ym-Muallt a Chrughywel).  Mae'r ardaloedd lle mae'r cynlluniau hyn ar waith yn amrywio, ond ni fyddai'r gwasanaeth ar gael i aelodau'n byw mwy na 10 milltir o leoliad y cynllun. 

Mae'r holl gynlluniau'n gweithredu yn debyg i'w gilydd; mae'r Grwp Gwirfoddol yn codi arian o ffynonellau amrywiol, ac yn defnyddio'r arian yma i sicrhau prisiau gostyngedig ar gyfer teithiau tacsi y mae aelodau'n eu cymryd.  Mae aelodau'n derbyn tocynnau 50c hyd at gyfanswm o £50, neu £100 i'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwy anghysbell. Wedyn gellir defnyddio'r tocynnau hyn i dalu am hanner cost y daith mewn tacsi, e.e. dim ond £1 ar gyfer siwrnai fyddai fel arall yn costio £2, a byddai'n bosib gwneud y teithiau hyn 50 o weithiau mewn blwyddyn. 

Mae cwmniau tacsi yn gallu hawlio gwerth y tocynnau gan y Grwp Gwirfoddol, ac mae'n rhaid i'r cwmniau hynny sydd am fod yn rhan o'r cynllun arwyddo cytundeb gyda'r Grwp Gwirfoddol. 

Mae'r nifer o aelodau yn y cynlluniau'n amrywio o 30 yn y rhai lleiaf, i ymhell dros  150 yn y cynlluniau mwy. Yn y mwyafrif o'r cynlluniau, cyfyngir aelodaeth i'r bobl hynny sydd mewn oed, yn anabl neu'n dioddef o gyflwr meddyliol neu gorfforol sy'n golygu ei fod yn anodd iddynt ddefnyddio dulliau cludiant cyffredin. 

Mae'n werth ystyried dulliau lle gall Cynlluniau Cerdyn Tacsi wella eu ffordd o weithio, oherwydd maent yn ffordd fforddiadwy a hyblyg o deithio i grwpiau difreintiedig mewn ardaloedd gwledig. Gyda lwc, byddant yn parhau i ddarparu'r gwasanaeth hwn a'i ddatblygu dros y blynyddoedd sydd i ddod.

Ymunwch â PAVO

Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy

Hyfforddiant

Mae PAVO yn darparu cyrsiau hyfforddi ar holl agweddau rhedeg grwpiau cymunedol a mudiadau ... dysgu mwy

Mae Asiantaeth Hyfforddi Cludiant Powys yn darparu cyrsiau hyfforddi ym maes cludiant a gwybodaeth ... dysgu mwy

Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys

Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy

Plant a Phobl Ifainc

Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles

Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy

Cludiant Cymunedol

Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy

Datblygu Cymnunedol

Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy

Click to search for community and voluntary organisations within Powys
nôl i ben y tudalen

Porwch PAVO