Mae un ar ddeg o Gynlluniau Ceir Cymunedol neu Wirfoddol ym Mhowys - sef yng Ngogledd Maldwyn, De Maldwyn, Machynlleth, Llanidloes, Rhaeadr, Llandrindod, Y Gelli, Trefyclo, Llanandras, Llanwrtyd a Llanfair-ym-Muallt. Hefyd mae Cynllun Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched (WRVS) yn gweithio mewn rhan helaeth o'r sir. Mae wyth o'r Cynlluniau Ceir Cymunedol yn cael eu rhedeg trwy Asiantaethau Cymunedol neu gan Fiwroau Gwirfoddol lleol, ac fe'u rheolir gan bwyllgorau rheoli'r asiantaethau hynny. 

Mae'r Cynlluniau'n recriwtio gyrwyr gwirfoddol sy'n defnyddio eu ceir eu hunain i ddarparu cludiant o ddrws i ddrws.  Mae'r Cynlluniau'n agored i bobl sydd heb fynediad rhesymol i fathau eraill o gludiant.  Ym Mhowys, rhoddir blaenoriaeth i apwyntiadau iechyd, ond gellir hefyd eu defnyddio ar gyfer teithiau sy'n ateb anghenion bob dydd. 

Telir treuliau i'r gyrwyr i dalu am y milltiroedd a deithir. Gofynnir i ddefnyddwyr y gwasanaeth dalu rhai o'r costau, ond mae angen arian ychwanegol i dalu'r costau llawn. 

Mae gwasanaeth Cynllun y WRVS ar gael i berthnasau sydd am ymweld a chleifion yn yr ysbyty neu mewn sefydliadau gofal eraill

Ymunwch â PAVO

Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy

Hyfforddiant

Mae PAVO yn darparu cyrsiau hyfforddi ar holl agweddau rhedeg grwpiau cymunedol a mudiadau ... dysgu mwy

Mae Asiantaeth Hyfforddi Cludiant Powys yn darparu cyrsiau hyfforddi ym maes cludiant a gwybodaeth ... dysgu mwy

Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys

Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy

Plant a Phobl Ifainc

Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles

Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy

Cludiant Cymunedol

Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy

Datblygu Cymnunedol

Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy

Click to search for community and voluntary organisations within Powys
nôl i ben y tudalen

Porwch PAVO