Mae Cludiant Cymunedol (CC) yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle nad yw'n bosibl diwallu'r anghenion hyn, neu nad oes gwasanaeth digonol i'w diwallu, trwy gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol.
Gall gweithgareddau CC amrywio - o ddarparu cludiant o ddrws i ddrws i bobl sydd ag anawsterau symudedd, i helpu cynhwysiant cymdeithasol ystod eang o bobl fyddai fel arall yn methu cymryd rhan mewn gweithgareddau cyffredin bywyd bob dydd megis addysg, hyfforddiant a gwaith. Mewn ardaloedd gwledig, gall CC leihau effeithiau unigedd daearyddol trwy roi gwell mynediad i ganolfannau lleol a rhanbarthol.
Mae CC yn rhan hollbwysig o system cludiant integredig, ac yn bwydo mewn i ac allan o brif lwybrau a chyfnewidfeydd cludiant cyhoeddus.
Mae nifer o gynlluniau CC llwyddiannus ar waith ym Mhowys. Mae'r mwyafrif wedi datblygu i ddiwallu anghenion grwpiau difreintiedig, yn enwedig pobl mewn oed a phobl anabl.
Ymysg y cynlluniau hyn mae:
- Cynlluniau 'Dial-a-Ride'
- Cynlluniau Cerdyn Tacsi
- Cynlluniau Ceir Cymunedol a Gwirfoddol
- Cynlluniau Bysiau Mini Cymunedol (CS Powys)
- Bysiau Cymunedol (Adran 22)
- Cynllun Hurio i Grwpiau (PAVO)
Mae gwybodaeth a ffurflenni ymaelodi ar gael gan y cynlluniau unigol
Mae'r holl gynlluniau CC Powys yn aelodau o Fforwm CC Powys. Sefydlwyd y Fforwm ym 1992, ac erbyn hyn mae'n cynnwys cynrychiolwyr o'r sectorau gwirfoddol a statudol (dros 50 ohonynt yn 2005), ac mae'n cwrdd bob chwarter ac yn weithgar o safbwynt datblygu a chydlynu polisiau CC ym Mhowys. Mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan Gyngor Sir Powys, Bwrdd lechyd Lleol Addysgu Powys) sydd hefyd yn ei gefnogi.
Mae Adran CC Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) hefyd yn ei gefnogi. Mae'r Adran yn derbyn cefnogaeth ariannol gan Gyngor Sir Powys, Bwrdd lechyd Lleol Addysgu Powys, Llywodraeth Cynulliad Cymru, a'r Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy
Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy
Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy
Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy
Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy
Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy