Fel rhan o'n cefnogaeth i'r sector gwirfoddol ym Mhowys, mae PAVO yn cynnig gwasanaeth cadw llyfrau a chyflogres cynhwysfawr cyfrifiadurol, sy'n galluogi mudiadau i ganolbwyntio eu hadnoddau gwirfoddolwyr/staff ar gyflawni eu prif amcanion.
Cynigir y gwasanaeth cadw llyfrau i fudiadau gwirfoddol ym Mhowys, ac mae'n cynnwys:
- Cadw llyfrau o ddydd i ddydd, gan gynnwys cadw cofnod o daliadau a derbyniadau,mantoli cyfrifon banc, ysgrifennu sieciau, llunio datganiadau incwm a gwariant;
- Cysylltu â'r banc er mwyn sefydlu cyfrifon banc i fudiadau newydd, cefnogaeth barhaol i gysoni cyfriflenni banc gyda'r cyfrifon;
- Cyngor i Fudiadau Gwirfoddol pan fo angen ar systemau ariannol/cadw llyfrau addas;
- Darperir gwybodaeth ariannol i ymddiriedolwyr er mwyn eu galluogi i baratoi cyfrifon rheoli cywir, neu gellir paratoi a chyflwyno cyfrifon rheoli mewn cyfarfodydd o'r ymddiriedolwyr;
- Cymorth a chyngor ymarferol pan fo angen;
- Anfon anfonebau gyda'r awdurdod perthnasol i'w prosesu, cadw cofnodion cywir o incwm a gwariant;
- Rhan bwysig o gyfrifoldeb unrhyw fudiad gwirfoddol yw llunio ac archwilio'r cyfrifon. Mae'n hanfodol cael cyfrifon sy'n glir, a mor syml â phosibl ac sy'n cadw pobl yn effro!Hefyd mae angen gofalu eich bod yn cydymffurfio ag unrhyw reoliadau sy'n berthnasol i'ch mudiad chi.
- Mae mathau gwahanol o grwpiau ag anghenion gwahanol; mae'r rhan fwyaf o'n gwaith ni gydag elusennau bach; felly rydym yn defnyddio'r rheoliadau cyfrifon i elusennau fel canllaw SORP 2005 (Datganiad o'r Arfer a Argymhellir.
Mae Gwasanaeth Cyflogres PAVO yn Wasanaeth Cyflogres Cyfrifiadurol. Mae'n cynnwys darparu:
- Crynodeb o'r taliadau, sy'n rhoi manylion llawn yr holl daliadau a didyniadau a wanethpwyd mewn cyfnod tâl penodol.
- Slipiau cyflog a manylion unrhyw daliadau sy'n ddyledus i swyddfa cyfrifon Cyllid y Wlad.
- Ar ddiwedd y flwyddyn byddwn yn cwblhau ffurflenni P14/P60 i bob cyflogai, y cyfansymiau sydd eu hangen ar gyfer Datganiad Blynyddol y Cyflogwr (P35) a chyngor a chefnogaeth ar lenwi'r ffurflen.
- Darparu ac anfon dogfennau i Gyllid y Wlad mewn perthynas â gweithwyr newydd a gweithwyr sy'n gadael.
- Cyngor a chymorth gyda holl agweddau ar PAYE a'ch cynorthwyo i ddeall y broses o gofrestru gyda Chyllid y Wlad.
Ar ôl sefydlu popeth i gychwyn, y cwbl fydd angen i chi ei wneud yw:
- Talu eich gweithwyr
- Talu'r Swyddfa Dreth
- Ein hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau i'r manylion tâl arferol
- Cadarnhau ac arwyddo'r datganiad blynyddol er mwyn inni ei anfon i Gyllid y Wlad ar lein
Mae'r ffïoedd canlynol yn berthnasol i'r gwasanaethau llyfrau a chyflogres ar y chwith:
The Bookkeeping service is currently charged out at a rate of £13 per hour.
The Independent Examination of Accounts ranges from £75 to 250. This is dependent on the turnover of the group, the status of their accounts ie are they prepared to Balance sheet stage and how large the organisation is.
Ar gyfer staff misol, mae'r ffïoedd ar hyn o bryd fel a ganlyn:
Gweithiwr 1af, £10.00 y mis
2ail + weithiwr, £5.00 y slip tâl
Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy
Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy
Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy
Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy
Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy
Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy