
Os felly, yna efallai yr hoffech ystyried ymuno â Rhwydwaith Ymddiriedolwyr Powys.
Mae PAVO yn rhoi cefnogaeth i'r Rhwydwaith Ymddiriedolwyr, ac yn darparu cefnogaeth o safbwynt dysgu i ymddiriedolwyr hefyd(gan gynnwys ymddiriedolwyr elusennau, aelodau o bwyllgorau rheoli a chyfarwyddwyr cwmnïau di-elw) mudiadau gwirfoddol neu gymunedol sy'n gweithredu ym Mhowys.
Mae aelodau'r Rhwydwaith yn derbyn gwybodaeth a manylion diweddaraf materion sydd o ddiddordeb i ymddiriedolwyr.
Nodau'r Rhwydwaith yw:
- Darparu cyfle i ymddiriedolwyr rannu dysgu a gwybodaeth am eu profiad wrth gyflawni eu dyletswyddau llywodraethu.
- Darparu fforwm er mwyn penderfynu ar anghenion hyfforddi a datblygu ymddiriedolwyr.
- Trefnu cyfarfodydd, cynadleddau, cyrsiau, arddangosfeydd neu ddigwyddiadu neu weithgareddau eraill sy'n cefnogi ac yn datblygu gwybodaeth, sgiliau a hyder ymddiriedolwyr.
- Rhoi cyfle i ymddiriedolwyr bod yn rhan o broses ymgynghori ac atborth ar ddatblygiadau polisi strategol
Mae aelodaeth o'r Rhwydwaith yn rhad ac am ddim, ac ar agor i holl ymddiriedolwyr mudiadau gwirfoddol neu gymunedol sy'n gweithredu ym Mhowys.
Am fwy o wybodaeth ar ymuno â Rhwydwaith Ymddiriedolwyr Powys, cysylltwch â:
Peter Lathbury trwy ebost yma neu drwy ffonio: 01597 822191
Neu drwy'r post:
PAVO, Marlow, Cilgant y De, Llandrindod, Powys, LD1 5DH
Estynnir gwahoddiad i bob mudiad gwirfoddol a bob grŵp cymunedol ym Mhowys ymaelodi â PAVO. Does dim tâl aelodaeth ... dysgu mwy
Mae Asiantaeth Iechyd Meddwl Powys yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, rhwydweithiau i gynrychioli, cyngor a hyfforddiant i’r Trydydd Sector ar unrhyw agwedd ar wasanaethau iechyd meddwl ym ... dysgu mwy
Rhwydwaith i fudiadau a grwpiau sy’n cefnogi, helpu, chwarae a gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan eu helpu i rannu arferion da, cydweithio gyda a chysylltu â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ... dysgu mwy
Cyfle i ddweud eich dweud a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu at Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhowys ... dysgu mwy
Mae Cludiant Cymunedol yn diwallu anghenion cludiant cymunedau lle na ddiwellir yr anghenion hyn, neu le nad ydynt yn cael eu diwallu’n ddigonol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol ... dysgu mwy
Gall tîm Swyddogion Datblygu PAVO ddarparu cefnogaeth ymarferol i’ch cynorthwyo i helpu datblygu eich grŵp cymunedol a’i weithgareddau ... dysgu mwy